Nifer 'gwallgo' o geiswyr lloches wedi eu hanfon i hostel yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Roedd nifer y ceiswyr lloches a anfonwyd i hostel yng Nghaerdydd yn "wallgo" yn ôl un o Aelodau Seneddol Gymru.
Roedd rhai o'r bobl a anfonwyd i Lynx House, wedi eu hanafu neu yn dioddef o sgabies, meddai rheolwyr yr hostel wrth AS Llafur Canol Caerdydd, Jo Stevens.
Ychwanegodd bod y rheolwyr wedi dweud wrthi fod 'na dros 400 o bobl yno ar un cyfnod, mwy na dwbl y nifer y gellir eu rheoli yn iawn.
Mae ASau yn trafod y modd mae ceiswyr lloches yn cael eu trin gan gontractwyr ddydd Mercher.
Wedi gwrthwynebiad i reol oedd yn gorfodi rhai o drigolion Lynx House i wisgo band ar eu garddynau - oedd yn caniatau iddyn nhw hawlio prydau bwyd - fe ddaeth i ben.
"Mae nifer o ddynion sengl wedi eu hanfon gan y Swyddfa Gartref," meddai Ms Stevens wrth ei chyd-aelodau ddydd Mercher.
"Mae'r unigolion yma wedi mynd drwy lawer cyn cyrraedd Caerdydd.
"Roedd nifer wedi eu hanafu a sawl achos o sgabies."
Oherwydd pryderon am ormodedd o bobl yn yr hostel - sy'n cael ei rhedeg gan Clearsprings Group, fe ychwanegodd Ms Stevens nad yw'r strwythur yma yn gweithio.
Dywedodd AS Llafur De Caerdydd a Phenarth Stephen Doughty, nad oedd yr un o'r ceiswyr lloches yn gofyn i gael eu trin mewn modd arbennig, dim ond gyda pharch ac urddas.
Eglurodd bod 'na achosion o orchmynion troi allan byr, ymddygiad bygythiol a gweithwyr gwrywaidd yn mynd i ystafelloedd merched heb ganiatâd - ar adegau pan mae'r merched heb wisgo.
Dywedodd Mr Doughty bod ymddygiad o'r fath yn gwneud profiadau'r unigolion yma yn waeth.
Fe ddywedodd Gweinidog Mewnfudo, James Brokenshire, bod Llywodraeth Prydain wedi ymrwymo "i gynnig system lloches sy'n gwarchod ac yn parchu hawliau sylfaenol y rhai sy'n cyrraedd yma yn chwilio am loches rhag erlyniad".
Dywedodd ei fod yn disgwyl i'r bobl yma gael eu trin a pharch ac urddas.
"Dwi hefyd wedi tanlinellu na ddylai fod 'na achos sy'n gwahaniaethu, ynysu neu yn tynnu sylw at geiswyr lloches mewn modd cyhoeddus.
Fe wnaeth y gweinidog groesawu'r hyn oedd eisoes wedi ei wneud i wella'r sefyllfa.