Cyfle i bobl Llŷn gofnodi enwau lleoedd
- Cyhoeddwyd

Mae yna wahoddiad i bobl Llŷn fynd i ddiwrnod agored yn Llanbedrog ddydd Iau i gofnodi enwau lleol er mwyn sicrhau bod hen enwau'n cael eu cadw ar gof a chadw.
Aelodau o gynllun GWARCHOD, dan ofal Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru sy'n cynnal y diwrnod. Mae'r gymdeithas yn canolbwyntio ar gasglu, cofnodi a gwarchod enwau Cymru gyfan.
Mae hyn yn cynnwys enwau ffermydd, caeau, ogofau, llwybrau, pyllau, afonydd, mynyddoedd, murddunnod a llawer mwy.
Ddydd Iau, y blaenoriaethau fydd cofnodi enwau caeau hen blwyf Aberdaron, sydd ddim hyd yma wedi eu cofnodi, a chofnodi enwau eraill yn y plwyf ac yn ehangach yn Llŷn, sydd, o bosib, ddim ar unrhyw fap.
Y bwriad yw cofnodi'r enwau ar fap digidol a chreu cronfa ddata genedlaethol o'r enwau, yng ngofal y Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol.