Dros £500,000 i goleg dan ymchwiliad
- Cyhoeddwyd

Mae coleg preifat - oedd yn destun ymchwiliad i dwyll ac i'r modd yr oedd myfyrwyr yn cael eu cofrestru yno - wedi derbyn gwerth dros £500,000 mewn ffioedd dysgu, benthyciadau a grantiau.
Roedd y West London Vocational Training Collegeyn ganolbwynt i ymchwiliad gan raglen BBC Cymru Week In Week Out, pan ddefnyddiodd gohebydd cudd gymwysterau ffug i gael grant i astudio yno.
Cafodd recriwtiwr ei ffilmio'n gudd yn y coleg yn dweud wrth ddarpar-fyfyrwyr posib y bydden nhw'n gallu twyllo wrth wneud eu gwaith cwrs a dweud celwydd am eu cymwysterau er mwyn derbyn benthyciad cyhoeddus.
Mae perchennog y coleg, Bharat Bageja, wedi gwadu ei fod yn gwybod am unrhyw ddrwgweithredu wrth recriwtio myfyrwyr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylw tra bo'r ymchwiliad yn parhau.
Hanner miliwn
Mae ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru drwy'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn datgelu fod ffioedd dysgu gwerth £175,500 wedi eu talu i'r coleg erbyn diwedd Mis Tachwedd y llynedd.
Datgelodd ffigyrau Llywodraeth Cymru fod cyfanswm o £327,215 mewn grantiau a benthyciadau ar gyfer costau byw wedi ei dalu i fyfyrwyr oedd wedi cofrestru gyda'r coleg.
Cafodd pob taliad i'r coleg a'r myfyrwyr eu hatal ar 27 o Dachwedd tra bo uned trosedd economaidd Heddlu'r De yn ymchwilio i honiadau o dwyll grantiau nawdd yn y coleg.
Mae gan y coleg ar Heol y Brodyr Llwydion yng Nghaerdydd gampws arall yn Wembley yn Llundain.
Fe wnaeth cyfanswm o 303 o fyfyrwyr gais am fenthyciadau a grantiau gan Cyllid Myfyrwyr Cymru i astudio ar y campws yng Nghaerdydd, a agorodd y llynedd, ac oedd yn cynnig cyrsiau HNC a HND mewn technoleg gwybodaeth a busnes.
O'r ffigwr yma, cafodd 235 o fyfyrwyr eu cymeradwyo i dderbyn cefnogaeth - roedd 126 ohonyn nhw wedi derbyn arian erbyn i'r taliadau gael eu hatal.
Myfyrwyr yn gadael
Cadarnhaodd y Student Loans Company, sy'n gweinyddu benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr, fod nifer o fyfyrwyr wedi rhoi'r gorau i astudio ar y campws yng Nghaerdydd wedi i'r taliadau gael eu hatal.
Mae bron i £4,000 o fenthyciadau a grantiau wedi eu had-dalu gan fyfyrwyr ar gampws Caerdydd ers diwedd Tachwedd.
Serch hynny, does dim ffioedd dysgu wedi eu had-dalu.
Ym mis Rhagfyr, dechreuodd y goruchwylydd addysg, y Quality Assurance Agency (QAA) ymchwiliad i ddau gampws y coleg.
Ar ol i'r heddlu gael gwarant, cafodd cyfrifiaduron, ffeiliau a gwaith papur eu cymryd oddi yno ym mis Rhagfyr.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddai'n amhriodol i Lywodraeth Cymru wneud sylw tra bo'r ymchwiliad yn parhau."
Pryderon am reoleiddio
Cafodd pryderon am reoleiddio colegau preifat ei leisio yn un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Hydref 2014.
Ar hyn o bryd, dyw colegau preifat yng Nghymru ddim yn cael eu hadolygu gan y QAA cyn dynodi cyrsiau - yn wahanol i golegau preifat yn Lloegr.
Wrth gyhoeddi y byddai taliadau i'r coleg yn cael eu hatal fis Tachwedd diwethaf, dywedodd y gweinidog addysg, Huw Lewis bod system wirio yn ei lle, ond na allai unrhyw system reoleiddio sicrhau gant y cant na fyddai twyll.
Dywedodd y bydd newidiadau i'r system reoleiddio yn cael eu cyhoeddi eleni.
Mewn llythyr fis Mehefin diwetha i gadarnhau'r cyrsiau oedd wedi eu dynodi, nododd Adran Addysg Uwch Llywodraeth Cymru wrth berchennog y coleg, Bharat Bageja y bydden nhw'n "cadw llygad manwl" ar nifer y myfyrwyr ar gampws Caerdydd a'u cymhwysedd i ymgeisio am gefnogaeth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru.