Ffrae UKIP: Galwad o'r newydd ar Nathan Gill i fynd

  • Cyhoeddwyd
Gill
Disgrifiad o’r llun,
Dyma'r ail her i arweinyddiaeth Nathan Gill mewn wythnos

Mae deiseb yn galw ar Nathan Gill i gael ei ddisodli fel arweinydd UKIP Cymru wedi ei gyflwyno i gorff llywodraethu'r blaid.

Mae'n dweud nad oes "cynllun credadwy" ar gyfer ymgyrch etholiadol y Cynulliad nac "arweinyddiaeth effeithiol".

Daw'r alwad ar Mr Gill gan 26 o enwau ar y ddeiseb, sy'n cynnwys chwe ymgeisydd y blaid yn yr etholiad cyffredinol y llynedd.

Mae eisoes wedi gwrthod galwadau arno i ildio'r awenau yn dilyn her debyg wythnos diwethaf.

Dyma ffrae fewnol sydd wedi bod yn berwi ers amser yn dilyn anghydfod ynghylch y ffordd mae UKIP yn dewis ymgeiswyr ar y rhestrau rhanbarthol ar gyfer mis Mai.

Roedd nifer o selogion yn anhapus bod y cyn Aelodau Seneddol Ceidwadol, Neil Hamilton a Mark Reckless, sydd bellach yn aelodau o UKIP, yn y ras i fod yn ymgeiswyr Cynulliad.

'Diffyg arweinyddiaeth'

"Y ddealltwriaeth gan bawb yw bod UKIP yng Nghymru yn gweithredu ar sail parch," meddai'r ddeiseb.

"Yng ngolau'r amgylchiadau rhyfeddol sy'n bodoli, a hefyd, fel y dewis olaf, er mwyn atal rhagor o niwed o fewn y 'blaid', mae'n angenrheidiol ceryddu a disodli'r rheiny'n sy'n gyfrifol."

Mae'r ddeiseb yn cyhuddo Mr Gill o ddangos "diffyg arweinyddiaeth ym mhob agwedd o'r mater", gan ychwanegu nag oes gan "aelodau unrhyw ffydd yn ei allu i arwain UKIP yng Nghymru mewn unrhyw ffordd effeithiol".

Ymysg yr ymgeiswyr UKIP yn yr etholiad cyffredinol su'n cefnogi'r ddesieb mae Joe Smyth (Islwyn), Darran Thomas (Brycheiniog Maesyfed), Ken Beswick (Torfaen), Blair Smillie (Alun a Glannau Dyfrdwy), Nigel Williams (Delyn) a Paul Davies Cooker (Dyffryn Clwyd).

Ethol arweinydd

Mae UKIP wedi gwrthod gwneud unrhyw sylw ond mae ffynhonnell o fewn y blaid wedi disgrifio'r ddeiseb fel "gwiriondeb".

Mae un o drefnwyr y ddeiseb, Nigel Williams, cadeirydd UKIP yn Delyn wedi dweud bod hi'n "well hwyr na hwyrach" i godi pryderon gyda etholiadau'r Cynulliad mond ychydig fisoedd i ffwrdd.

Mae'n dweud bod angen etholiad i benderfynu ar yr arweinydd i'r blaid gan ddweud y gallai UKIP Cymru ddewis "unrhyw un o ddeg o bobl wych".

Mae nifer o actifyddion yn parhau yn anhapus bod Nathan Gill wedi ei apwyntio, yn hytrach na'i ethol fel arweinydd UKIP yng Nghymru.