Awchu am fod yn ofnadwy
- Cyhoeddwyd

Ddywedodd eich mam wrthoch chi mai nid yr ennill sy'n bwysig, ond y cymryd rhan?
Rybish, meddai pob dilynwr tîm rygbi Cymru... wel pob un ond Gareth Rhys Owen, gohebydd chwaraeon BBC Cymru. Dyma fe i geisio egluro ei hun...
"Croeso i'r TARDIS.
Dwi am fynd a chi yn ôl i'r wythdegau.
'Ffalabalam', Marathon yn hytrach na Snickers, Opal Fruits nid Starburst, Gameboys, Rick Astley, tîm pêl-droed Lerpwl yn rheoli'r byd a thîm rygbi Cymru yn ofnadwy.
Ahhh, nostalgia, mae e'n ddigon i dwymo'r galon. O am gael mynd yn ôl i'r dyddiau 'na pan fydde gwylio tîm rygbi Cymru yn gyfatebol i Gristnogion yn y bedwaredd ganrif a'r ddeg fydde'n chwipio'u hunain i lanhau'r einioes ac i brofi eu bo' nhw'n medru dioddef.
Nid yr ennill sy'n bwysig....
Does dim dwywaith amdani, roedd dilyn Cymru yn artaith. Roedd colli yn Twickenham yn sicrwydd, roedd colli i'r tri thîm arall yn y bencampwriaeth i'w ddisgwyl, roedd colli i Rwmania, Samoa a Chanada yn teimlo fel rhywbeth fydde'n debygol.
Prif rinwedd nostalgia yn ei hanfod yw'r twyll bod y dyddie a fu yn well na'r presennol ac ma'n rhaid cyfadde' bod rhan ohona i'n gweld ishe'r dyddiau hynny.
Roedd 'na drefn penodol i fywyd, roedd 'na sicrwydd i ddioddefaint ac yn bwysicach na dim, roedd yr ambell lygedyn o fwynhad lawer mwy melys oherwydd y boen ddaeth cyn hynny. Mae hyd yn oed sglodion o'r ffwrn yn flasus ar ôl wythnos o ddeiet bwyd cwningen.
Fydd yr haul eto'n codi?
Ond beth am fywyd y cefnogwr cyfoes? Ble fydd y pleser b'nawn Sadwrn pan fydd Cymru yn curo'r Alban am y nawfed gêm o'r bron?
Cyn y bencampwriaeth roedd 'na sôn am y renaissance Albanaidd dan arweinyddiaeth yr hyfforddwr Vern Cotter. Fe ddaeth y tîm o fewn trwch blewyn i guro Awstralia yng Nghwpan y Byd ac roedd yna gnewyllyn o chwaraewyr ifanc, brwdfrydig, talentog yn Hogg, Seymor a Bennett oedd yn barod i synnu'r byd.
Colli naetho' nhw yn erbyn Lloegr, yr wythfed tro yn olynnol yn y bencampwriaeth. Mae'r bwcis, y gwybodusion ac unrhyw un sydd â gronyn o synnwyr cyffredin yn grediniol ma' Cymru fydd yn ennill y penwythnos yma.
Boring!
A be' amdana' i? Mae'n amhosib dadlau â'r ffeithiau. Mae Cymru yn dîm profiadol, trefnus a phwerus ac dwi felly'n disgwyl i ni ennill.
Ond wyddo chi beth? Allai'm diodde'r teimlad yma o hyder, o grediniaeth llwyr yn y ffaith bo' 'Ni' yn well na 'Nhw'. Ble mae'r hwyl yn hynny?
Pwy sy' eisiau bod yn frawd mawr heb unrhyw deimlad o ormes nac anhegwch? O am gael mynd yn ôl i'r 80au! O am gael bod yn Albanwr!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2016