Deepcut: Cymryd 'cyffuriau anghyfreithlon'
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed fod milwyr oedd dan hyfforddiant ym marics Deepcut wedi eu gadael i "redeg o gwmpas" yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon ac yfed dan oed.
Cafodd y Preifat Cheryl James, oedd yn 18 oed, ei chanfod yn farw gyda bwled yn ei phen yn safle'r fyddin yn Surrey ar 27 o Dachwedd 1995.
Cafodd y Swyddog Gwarant, Sarah Ditchfield ei hyfforddi yr un pryd a Preifat James, a disgrifiodd Deepcut fel lle o "anhrefn", ac nad oedd digon o oruchwyliaeth ar y milwyr dan hyfforddiant.
Cyffuriau
Ar bedwerydd diwrnod y cwest yn Woking, dywedodd wrth Lys Crwner Surrey: "Roedden ni'n blant 17 oed, oedd ag arian yn ein pocedi, doedd dim byd arall i ni wneud".
Dywedodd fod merched yn dadlau ac yn ymladd ar adegau.
Cyfaddefodd ei bod hi a'i chyd-filwyr wedi cymryd cyffuriau, a bod Preifat James wedi cymryd amffetaminau.
Dywedodd fod cariad Preifat James, Paul Wilkinson wedi ei ddryllio pan glywodd y newyddion am ei marwolaeth. Disgrifiodd sut yr oedd Pte James hefyd mewn perthynas gyda milwr arall, James Carr-Minns.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n poeni am adael unrhyw un i lawr, roedd hi'n hoff o gael hwyl, yn dod ymlaen gyda phawb ac roedd hi mewn sefyllfa lle nad oedd hi eisiau gorffen gyda'r un ohonyn nhw."
Bygwth ei saethu ei hun
Mae'r cwest hefyd wedi clywed gan filwr arall oedd yn ffrind i'r Preifat James.
Dywedodd Marina Fawcett fod ei ffrind wir eisiau gadael y fyddin, a'i bod wedi dweud y byddai'n saethu ei hun yn ei phen.
"Fe ddywedodd hi, "Ry' ni'n mynd i saethu'n hunain ar ddyletswydd ryw ddiwrnod, yn dydyn ni?" ac fe atebais i, "Ydyn.""
"Aeth beth ddywedodd hi'r diwrnod hwnnw dros fy mhen i. Dywedodd hi: "Fe saethwn ni'n hunain yn ein pennau"."
"Roedd hi'n ei ddweud e fel banter arferol. Mae'r geiriau yna wedi aros yn fy mhen i."
'Llawn bywyd'
Ychwanegodd: "Roedd hi wastad yn hapus, yn llawn bywyd. Roedd e fel tasai hi'n cymryd rhywbeth."
Dywedodd Ms Fawcett fod un o'r hyfforddwyr yn ffansio'r Preifat James, ond ei bod wedi gwrthod ei gynnig.
Ar fore ei marwolaeth, dwedodd Ms Fawcett i'r ddwy gweryla am fywyd carwriaethol Preifat James.
"Fe ddywedais i rywbeth fel: "Mae angen i ti benderfynu gyda phwy wyt ti'n mynd allan" ac fe ddwedodd hi wrtha i am feindio fy musnes."
"Dyna'r tro olaf i mi ei gweld hi, ac roedd hi'n ymddangos yn normal."
Mae'r cwest yn parhau.