Dim newid i dîm Cymru i wynebu'r Alban

  • Cyhoeddwyd
BiggarFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Roedd rhaid i Dan Biggar adael y cae yn hanner cyntaf y gêm yn erbyn Iwerddon

Mae Dan Biggar yn holliach i chwarae dros Gymru yn erbyn Yr Alban yn ail gêm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Does dim newid i'r tîm ddechreuodd gêm gyfartal yn erbyn Iwerddon ddydd Sul diwethaf.

Mae Rob Evans, Justin Tipuric a Liam Williams yn cadw eu llefydd yn y tîm.

Bydd Gareth Anscombe yn cymryd lle Alex Cuthbert ar y fainc yn yr unig newid i'r garfan.

'Holliach ac yn barod'

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y canolwr Jonathan Davies yn ennill ei 50fed cap

Mae Biggar wedi gwella o'r anaf i'w ffêr wnaeth ei orfodi i adael y cae yn yr hanner cyntaf yn erbyn Iwerddon, a bydd y bartneriaeth gyda'r mewnwr Gareth Davies parhau.

Yng nghanol y cae bydd Jonathan Davies yn ennill ei 50fed cap yn erbyn Yr Alban, ac mae Tom James a Liam Williams yn cadw eu llefydd yn y cefn.

Mae propiau'r Scarlets Rob Evans a Samson Lee yn parhau yn y rheng flaen gyda Scott Baldwin.

Mae Justin Tipuric wedi ei ddewis o flaen Dan Lydiate i chwarae yn safle'r blaenasgellwr unwaith eto.

'Brwydr galed'

Dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland bod Biggar yn "holliach ac yn barod i chwarae".

"Mae'n wobr i rai chwaraewyr roddodd berfformiadau gwych yn Nulyn, ond fe fyddwn ni'n gofyn am ragor gan rai chwaraewyr hefyd.

"Mae'n wych gweld Jonathan yn ennill ei 50fed cap a pharhau ei berthynas ryngwladol gyda Jamie yng nghanol y cae.

"Roedd y chwaraewyr ar y fainc wedi gwneud argraff yr wythnos diwethaf a bydd hynny'r un mor bwysig y penwythnos yma mewn brwydr galed."

Tîm Cymru: Liam Williams (Scarlets); George North (Northampton), Jamie Roberts (Harlequins), Jonathan Davies (Clermont), Tom James (Gleision); Dan Biggar (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets); Rob Evans (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Luke Charteris (Racing 92), Alun Wyn Jones (Gweilch), Sam Warburton (capten) (Gleision), Justin Tipuric (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Gethin Jenkins (Gleision), Tomas Francis (Caerwysg), Bradley Davies (Wasps), Dan Lydiate (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), Rhys Priestland (Caerfaddon), Gareth Anscombe (Gleision).

Disgrifiad o’r llun,
Mae Rob Evans yn cadw ei le yn y reng flaen, Justin Tipuric yn dechrau fel blaenasgellwr a Liam Williams yn gefnwr

Tîm Yr Alban: Stuart Hogg, Sean Maitland, Mark Bennett, Duncan Taylor, Tommy Seymour, Finn Russell, Greg Laidlaw (capten), Alasdair Dickinson, Ross Ford, Willem Nel, Richie Gray, Jonny Gray, John Barclay, John Hardie, David Denton.

Eilyddion: Stuart McInally, Gordon Reid, Zander Fagerson, Tim Swinson, Blair Cowan, Sam Hidalgo-Clyne, Duncan Weir, Sean Lamont

Gemau Cymru yn Y Chwe Gwlad

Iwerddon v CYMRU - Dydd Sul, 7 Chwefror (Stadiwm Aviva, 15:00)

CYMRU v Yr Alban - Dydd Sadwrn, 13 Chwefror (Stadiwm Principality, 16:50)

CYMRU v Ffrainc - Dydd Gwener, 26 Chwefror (Stadiwm Principality, 20:05)

Lloegr v CYMRU - Dydd Sadwrn, 12 Mawrth (Twickenham, 16:00)

CYMRU v Yr Eidal - Dydd Sadwrn, 19 Mawrth (Stadiwm Principality, 14:30)

Bydd llif byw arbennig o Cymru v Yr Alban ar Cymru Fyw o 16:20 ddydd Sadwrn, ac am fwy o gyffro'r Chwe Gwlad ewch i'n is-hafan arbennig.