Cyn ysgrifenyddes ysgol gynradd yn ddieuog o dwyll

  • Cyhoeddwyd
llys
Disgrifiad o’r llun,
Llys y Goron Yr Wyddgrug

Mae cyn ysgrifenyddes ysgol a llywodraethwr yn y gogledd wedi ei chael yn ddieuog o ddwyn arian cinio.

Roedd Eirian Jarratt, 60, o Drefnant, ger Dinbych, wedi ei chyhuddo o dwyll ac o gymryd £10,600.

Dywedodd ddydd Iau na ddylai'r achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fod wedi ei gynnal yn y lle cyntaf gan gyhuddo'r erlyniad o "roi'r cart o flaen y ceffyl".

Ychwanegodd nad oedd ganddyn nhw "dystiolaeth gadarn".

Roedden yr erlyniad yn honni bod y gyn ysgrifenyddes wedi cymryd £10,600 o arian cinio yn Ysgol Pendref, sydd yn ysgol gynradd ger Dinbych.

Roedd Mrs Jarratt wedi mynnu ei bod yn ddieuog ac fe wnaeth ei thîm cyfreithiol fynd a'r achos yn ôl i'r llys gan ddweud bod y dystiolaeth yn annibynadwy.

Ni wnaeth yr erlyniad gynnig unrhyw dystiolaeth yn ei herbyn ddydd Iau.

'Echrydus'

"Ni ddylwn i fod wedi cael fy nghyhuddo yn y lle cyntaf, o ystyried y dystiolaeth oedd ganddyn nhw," meddai Mrs Jarratt.

"Maen nhw wedi rhoi'r cart o flaen y ceffyl. Fe ddylen nhw fod wedi cael tystiolaeth gadarn cyn fy ngyhuddo."

Dywedodd bod yr achos wedi cael effaith andwyol arni hi a'i pherthnasau: "Rwyf wedi colli fy swydd fel ysgrifenyddes mewn ysgol. Bu'n rhaid i mi ymddeol yn gynnar," meddai.

"Mae'r effaith mae hyn wedi cael ar fy nheulu wedi bod yn erchyll. Rydym i gyd ar feddyginiaethau gan y doctor ac mae hyn wedi ein rhwygo yn feddyliol."