Cyhoeddi prom roc newydd i'r Eisteddfod Genedlaethol
- Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd prom roc yn cael ei gynnal yn y Pafiliwn am y tro cyntaf eleni, fel teyrnged gerddorol i'r Sîn Roc Gymraeg.
Yn fwy o gig na chyngerdd, bydd rhai o brif artistiaid y sîn - Yr Ods, Sŵnami a Candelas - yn perfformio gyda chyfeiliant cerddorfa broffesiynol ar y nos Iau.
Huw Stephens fydd yn cyflwyno'r noson, gyda'r Welsh Pops Orchestra yn cyfeilio ac Owain Llwyd yn arwain.
Daw'r cyhoeddiad ar Ddiwrnod Cerddoriaeth Gymraeg, sydd wedi ei drefnu gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i hybu cerddoriaeth Cymru.
'Y SRG wedi cyrraedd'
Dywedodd Huw: "Rwy'n credu'i fod yn bwysig bod yr Eisteddfod yn parhau i geisio denu cynulleidfaoedd newydd.
"Rydym ni'n arbennig o dda am ddathlu'r gorffennol, ond rwy'n credu bod rhaid dathlu'r hyn sy'n digwydd nawr hefyd.
"Yr Eisteddfod yw prif ddigwyddiad y calendar cerddorol Cymreig ers blynyddoedd, ac mae hon yn mynd i fod yn un o nosweithiau pwysicaf hanes yr Eisteddfod.
"Pwy fyddai wedi gallu dychmygu y byddai'r sîn a gychwynnodd nôl yn yr 80au yn cyrraedd llwyfan y Pafiliwn - a hynny gyda chyfeiliant cerddorfaol? Mae'r SRG yn bendant wedi cyrraedd!"
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn Nolydd y Castell, Y Fenni, rhwng 29 Gorffennaf - 6 Awst.