Dinasoedd Cymru'n rhan o 'bwerdy' economaidd newydd?

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd a Chasnewydd
Disgrifiad o’r llun,
Gallai Caerdydd a Chasnewydd elwa o gydweithio, yn ôl yr adroddiad

Mae gan ardal yr Hafren y potensial i fod yn 'bwerdy' economaidd nesaf y DU, yn ôl adroddiad newydd gan Ddinasoedd Mawr y Gorllewin - Bryste, Caerdydd a Chasnewydd.

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar y buddiannau o gydweithio rhwng y dinasoedd, gan gynnwys rôl ddylanwadol prifysgolion a busnesau.

Daw'r adroddiad i'r canlyniad y gallai cydweithio gryfhau llais yr ardaloedd mewn penderfyniadau ar bolisïau economaidd a chyhoeddus - allai arwain at wneud yr ardal yn 'bwerdy'.

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym Mryste ddydd Gwener.

Daw'r asesiad wedi i ddwy ardal arall yn y DU ddechrau cydweithio - yng ngogledd a chanolbarth Lloegr.

'Cyfle mawr'

Yn ôl yr adroddiad, gallai lleihau amser teithio rhwng Caerdydd a Bryste o 20 munud arwain at arbed dros £1 biliwn dros 60 mlynedd.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale: "Mae'r adroddiad yma yn ei gwneud yn amlwg bod Dinasoedd Mawr y Gorllewin yn cynrychioli cyfle mawr i economi Prydain.

"Er ein bod yn perfformio'n dda o'i gymharu ag ardaloedd pwerdy eraill y DU, dy'n ni'n parhau y tu ôl i'r perfformwyr gorau yn Ewrop.

"Fe fyddwn ni nawr yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud yn ein hardaloedd dinesig i sicrhau bod Dinasoedd Mawr y Gorllewin wedi eu cysylltu'n well i'w gilydd, i ardaloedd pwerdai eraill ac i'r byd."