UKIP Cymru: Wfftio deiseb i Gill ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd

Mae UKIP Cymru wedi wfftio deiseb yn galw ar yr arweinydd Nathan Gill i ymddiswyddo.
Roedd chwe ymgeisydd ar gyfer yr etholiad cyffredinol ymysg y 26 o enwau oedd wedi beirniadu arweinyddiaeth Mr Gill.
Mae'r blaid wedi cwestiynu hygrededd y ddeiseb, gan ddweud bod Mr Gill yn "boblogaidd iawn ymysg aelodau".
Dywedodd Nigel Williams, pennaeth cangen Delyn y blaid, bod Mr Gill wedi methu a chyflwyno strategaeth drefnus cyn yr ymgyrch ar gyfer etholiad y Cynulliad.
Mae wedi galw am etholiad i benodi arweinydd newydd.
Dywedodd Mr Williams ei fod yn hyderus y bydd mwy o bobl yn ychwanegu eu henwau at y ddeiseb yn galw i Mr Gill ymddiswyddo.
Ond mae'r blaid wedi mynnu bod ganddo gefnogaeth y mwyafrif llethol o aelodau, gan ychwanegu nad yw rhai o'r enwau sydd ar y ddeiseb bellach yn aelodau a bod enwau eraill ar y ddeiseb heb eu caniatâd.
Straeon perthnasol
- 11 Chwefror 2016
- 4 Chwefror 2016