Pro 12: Dreigiau 21-26 Connacht

  • Cyhoeddwyd
Dreigiau v ConnachtFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd diwedd da i Connacht yn ddigon i'w gweld yn codi i dop y Pro12 gyda buddugoliaeth pwynt bonws dros y Dreigiau yn Rodney Parade.

Fe wnaeth Matt Healy, Tiernan O'Halloran, Eoghan Masterson a Bundee Aki groesi i'r ymwelwyr, gyda Craig Ronaldson yn trosi deirgwaith.

Y Dreigiau oedd ar y blaen am y rhan fwyaf o'r gêm gyda cheisiau gan Adam Hughes ac Ashton Hewitt ac wyth pwynt o droed Angus O'Brien.

Ond Connacht oedd yn fuddugol yn dilyn ceisiau hwyr Masterson ac Aki, gan adael y Dreigiau i setlo am bwynt bonws yn unig.