Gwrthdrawiad M4: Dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ar yr M4 ger Abertawe ddydd Gwener.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 06:13 rhwng cyffyrdd 45 a 46 tua'r dwyrain.
Dywedodd yr heddlu bod dyn oedd yn teithio mewn fan Peugeot wedi marw o'i anafiadau.
Cafodd gyrrwr y fan ei gludo i Ysbyty Treforys.
Mae swyddogion cyswllt teulu Heddlu De Cymru yn cefnogi teulu'r dyn ar hyn o bryd.
O ganlyniad i'r gwrthdrawiad mae'r M4 yn parhau i fod ar gau i gyfeiriad y dwyrain wrth i'r heddlu ymchwilio.
Mae traffig yn ciwio am chwe milltir, ond mae cerbydau yn cael eu dargyfeirio ar yr A48 drwy Dreforys.
Mae ymchwiliad wedi dechrau i amgylchiadau'r gwrthdrawiad ac mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw dystion a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu'r hyn ddigwyddodd cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw.