20 mlynedd Sea Empress: Atgofion o'r ardal

Y llong

Dywed un o ymgyrchwyr blaenllaw Cyfeillion y Ddaear yn y gorllewin ei fod yn parhau i boeni am danceri sy'n cludo tanwydd i Sir Benfro - a hynny ugain mlynedd ar ôl damwain y Sea Empress.

Yn 1996 fe wnaeth 72,000 o dunelli o olew arllwys i arfordir Sir Benfro o ganlyniad i ddamwain tancer y Sea Empress.

Dywed Gordon James cyn llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear eu bod nhw nawr yn poeni am danceri sy'n cludo nwy LNG i borthladd Aberdaugleddau.

"Beth sy`n becso ni nawr yw bod yr un peilotiaid morol a siaradodd mas adeg y Sea Empress - maen nhw wedi arwyddo llythyr yn dweud bod nhw ddim yn hapus gyda'r tanceri mawr LNG sy`n dod mewn," meddai Mr James.

"Mae problem ar un jeti yn eu barn nhw - felly os ydyn nhw`n dweud 'na mae rhaid i ni fecso ychydig. Mae gwaith da wedi ei wneud o ran diogelwch, ond mae yna le i wella."

Dywedodd cwmni Dragon LNG nad oeddynt yn ymwybodol o unrhyw broblemau yn ymwneud a'r jeti.

Gwnaed cais i Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau am sylw.

Digwyddodd damwain y Sea Empress ar Benrhyn Santes Anne - lle gwyllt, gwyntog a pheryglus.

Yn y dyddiau wedi 15fed o Chwefror, 1996, roedd y darn anghysbell yma o dir ar arfordir Sir Benfro yn ferw o weithgaredd.

Ar y creigiau oddi tano'r penrhyn, roedd llong olew anferth y Sea Empress wedi mynd yn gaeth ar y creigiau tra'n ceisio cyrraedd porthladd Aberdaugleddau.

Yn ystod y saith diwrnod canlynol, fe frwydrodd timau arbenigol i geisio atal trychineb amgylcheddol. Llifodd 72,000 o dunelli o olew crai i'r traethau a'r arfordir o gwmpas y llong.

Cafodd rhyw 7000 o adar eu heffeithio gan y tanwydd, gyda miloedd yn rhagor yn marw allan ar y môr.

Lledodd yr olew o'r trychineb i Fae Caerfyrddin a thu hwnt.

Cafodd 120 milltir o'r arfordir ei heintio gan olew y Sea Empress, ac fe gostiodd hi £60 miliwn i lanhau'r llanast.

Fe gyfrannodd nifer o ffactorau at y ddamwain.

Doedd offer radar y porthladd ddim yn gweithio ar y pryd.

Fe aed â'r llong i'r porthladd ar adeg pan oedd y llanw wedi troi, ac roedd yna broblemau cyfathrebu rhwng y llong a'r porthladd. Fe wnaed camgymeriadau hefyd wrth lywio'r llong i mewn i'r porthladd.

Mae nifer yn dal i gofio'r cyfnod. Un ohonynt yw Teifryn Williams sydd wedi byw yn Aberdaugleddau ers 1975.

Image caption Teifryn Williams

"O ni'n gwerthu rhannau o geir bryd hynny a es i draw a rhannau i Ddinbych y Pysgod a weles i ddim byd tebyg erioed. Roedd y traeth i gyd yn ddu, oedd dim son am dywod o gwbwl - o ni meddwl bydden ni byth yn gweld e nôl fel oedd e.

"Mae'n dda bod e wedi gwella mor gyflym achos bydde fe'n dorcalonnus pe bai'r diwydiant twristiaeth wedi colli mas."

Un arall sydd ag atgofion yn fyw yn y cof yw'r amgylcheddwr a llefarydd Cyfeillion y Ddaear Gordon James. Mi oedd teimladau pobl ar y pryd yn amrwd meddai.

Image caption Gordon James

"Mynd i'r arfordir a chwrdd â phobl leol. Ro'n nhw mor grac, o nhw mor ypset yn gweld y traethau arbennig sydd gyda ni yn Sir Benfro yn troi dros nos o felyn i ddu a gweld yr adar yn boddi yn yr olew a phobl yn methu credu fe.

"A fi'n cofio gweld rhai pobl yn llefain bod nhw'n methu credu beth oedd yn digwydd i'r arfordir."

Newyddiadurwr oedd Hefin Wyn ar y pryd a fe oedd un o'r gohebwyr cyntaf ar y Penrhyn y noson ddigwyddodd y ddamwain.

"Fi'n cofio'n glir iawn un noson tua naw o'r gloch rhaglen newyddion - yr annwyl Beti George yn fy holi i a finnau yn y tywyllwch.

"Oedd hi'n amlwg yn bwrw eirlaw yn wyntog a roen ni'n rhoi'r argraff beth bynnag mod i'n cael hi'n anodd sefyll yn llonydd. Ac fe gafodd y cyfweliad ei ddirwyn i ben yn gynt na`r bwriad dwi'n meddwl - oherwydd o nhw'n teimlo bod 'na beryg y gallen ni gwympo dros yr ochor lawr dros y dwnshwn.

"Roedd 'na dipyn o ymateb rhyfeddol i hynny, a phobl yn edrych mewn y noson ganlynol i weld a oedden ni dal yno dwin meddwl. "

Yn ôl Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, mae diogelwch llongau wedi gwella'n sylweddol ers 1996.

Mae meddalwedd wedi ei datblygu gan y porthladd sy'n rhoi gwybodaeth fanwl i beilotiaid ar leoliad llongau mewn lleoliadau anodd - technoleg sydd nawr yn cael ei rhannu ar draws y byd.

Mae tynfad nawr yn hebrwng llongau mawrion i'r harbwr rhag ofn fod yna broblemau technegol.

Er y gwelliannau, mae'r delweddau o'r olew trwchus ar draethau'r sir a'r llong enfawr yn gorwedd yn ddiymadferth ar greigiau Penrhyn Santes Anne yn anodd i bobl Sir Benfro anghofio - hyd yn oed ugain myned yn ddiweddarach.