Llai yn marw o glefydau anadlol

  • Cyhoeddwyd
pwmp

Mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n marw o glefydau anadlol wedi disgyn o 10% mewn blwyddyn, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl amcangyfrif mae 13% o oedolion yng Nghymru yn cael triniaeth am gyflwr anadlol megis asthma neu Glefyd Ataliol Cronig yr Ysgyfaint (COPD), ac fe gredir bod clefydau yr ysgyfaint yn achosi un o bob saith (15%) marwolaeth yng Nghymru.

Yn Ebrill 2014, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi dogfen, Law yn Llaw at Iechyd - Cynllun Delifro Iechyd Anadlol, oedd yn amlinellu eu gweledigaeth am iechyd anadlol.

Mae'r adroddiad cyntaf ers hynny yn dangos gostyngiad o 10% yn y gyfradd o bobl sy'n marw o glefydau anadlol rhwng 2013 a 2014, gan gynnwys lleihad o 8% yn y gyfradd farwolaeth yn ymwneud â niwmonia dros y cyfnod.

Ymhlith y gwelliannau eraill yn yr adroddiad mae:

  • 11.1% o ostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynd i adrannau brys ysbytai rhwng 2013-14 a 2014-15;
  • Gostyngiad yn nifer y bobl sy'n ysmygu dros y deng mlynedd diwethaf o 28% yn 2004-05 i 20% in 2014;
  • Yr amser y mae pobl yn treulio mewn ysbyty gyda chyflwr anadlol wedi gostwng o 6.2 diwrnod yn 2010-11 i 5.5 diwrnod yn 2014-15.

Ond mae'r adroddiad yn nodi sawl maes lle mae angen gwella, gan gynnwys:

  • Angen cynyddu faint o bobl dan 65 oed ac o dan risg sy'n cael y brechiad ffliw - ar hyn o bryd mae'n 50% ond nod y llywodraeth yw 75%;
  • Mae pobl gyda niwmonia neu'r ffliw yn aros yn yr ysbyty am 11.2 diwrnod ar gyfartaledd, sy'n llawer hirach na chlefydau anadlol eraill;
  • Dyw 63% o gleifion ddim yn cael ei hasesu am adferiad anadlol cyn gadael yr ysbyty.

Trydydd sector

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething:

"Rydym am sicrhau bod pobl o bob oed yn ymwybodol o beryglon ysmygu, ac yn mwynhau iechyd ysgyfaint da.

"Mae'r adroddiad yma'n dangos sut y mae byrddau iechyd yn gwella safonau gofal, a bod llai yn marw o gyflyrau anadlol."

Ychwanegodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru:

"Mae cyhoeddi'r adroddiad Cymru gyfan cyntaf yma yn crynhoi am y tro cyntaf wybodaeth syml a chlir am sut y mae gwasanaethau i bobl gyda chyflyrau anadlol yn perfformio.

"Mae'n bwysig i ni gydnabod gwaith gwerthfawr y trydydd sector {y sector gwirfoddol} yn cefnogi a gofalu am bobl gyda chyflyrau anadlol - heb hynny fe fyddai'r GIG yng Nghymru yn cael trafferth darparu gwasanaeth mor wych."