Annog cefnogwyr rygbi i 'gyrraedd yn gynnar'

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm y MilenwimFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cefnogwyr rygbi yn cael eu hannog i gyrraedd yn gynnar cyn y gêm rhwng Cymru a'r Alban ddydd Sadwrn.

Bydd rhagor o fesurau diogelwch yn cael eu cyflwyno, a all olygu oedi hirach na'r arfer i bobl tu allan y giatiau.

Mae'r heddlu yn pwysleisio nad oes "bygythiad penodol" i dde Cymru ond rhaid bod yn "wyliadwrus".

Dyma fydd y gêm fawr gyntaf yn Stadiwm Principality ers yr ymosodiadau ym Mharis fis Tachwedd.

Mae hi'n bosib na wnaiff rhai o'r cefnogwyr gyrraedd cyn y gic gyntaf os ydyn nhw'n cyrraedd yn hwyr, yn ôl swyddogion.

"Mae Caerdydd yn brysur ar ddiwrnod gêm ac fe ddylai'r rheiny sy'n dod i'r stadiwm gynllunio i gyrraedd yn gynnar er mwyn caniatáu amser ychwanegol i ddod drwy'r giatiau," meddai rheolwr Stadiwm Principality, Mark Williams.

"Os ydych yn cyrraedd y gêm heb lawer o amser cyn y gic gyntaf, dydyn ni methu rhoi unrhyw sicrwydd y byddwch yn eich sedd mewn pryd ar gyfer dechrau'r gêm."

Mae hefyd yn cynghori cefnogwyr i adael "sachau teithio a bagiau mawr" gartref er mwyn osgoi rhagor o oedi.

Disgrifiad o’r llun,
Bu teithwyr yn aros hyd at bedair awr am drên ar ôl dwy gêm yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Medi

Yn ôl Heddlu De Cymru, mae'r penderfyniad i gynyddu'r mesurau diogelwch yng Nghaerdydd wedi ei wneud mewn cyfarfod o grŵp diogelwch ymgynghorol y ddinas.

Dywedodd yr Arolygydd Andy Smith: "Gyda hyn yn dod i rym yn syth, os yw gwylwyr yn dod â bag, fe allai gael ei wyrio cyn iddyn nhw ymweld â Stadiwm Dinas Caerdydd, Parc yr Arfau BT Sport, SSE Stadiwm SWALEC a Stadiwm Principality.

"Tra does dim bygythiad penodol i dde Cymru, mae'n bwysig ein bod ni gyd yn parhau i fod yn wyliadwrus."

Yn ôl Trenau Arriva Cymru, bydd rhagor o drenau yn rhedeg er mwyn delio â'r 40,000 o bobl fydd yn eu defnyddio i fynd i'r gêm.

Mae'r gwaith o ailddatblygu'r Sgwâr Canolog yn golygu y bydd system giwio'n cael ei weithredu tu allan yr orsaf ar ôl y chwiban olaf.