'Treth brechdanau': 'nonsens' medd aelod cabinet

  • Cyhoeddwyd
BrechdanFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae aelod o gabinet Cyngor Caerffili wedi dweud mai "nonsens" yw'r awgrym y gallai rhieni orfod talu ffi os yw eu plant yn dewis mynd a brechdanau i'r ysgol. Pwrpas y ffi arfaethedig yw talu am gostau staff y cyngor, sy'n goruchwylio mewn ffreuturau ysgol.

Mi oedd Lindsay Whittle AC, sy'n ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Gaerffili wedi dweud y byddai'n "debygol y bydd y tâl hwn yn cael ei basio ymlaen i rieni gan lawer o ysgolion".

Ond mae Rhianon Passmore, sydd yn gyfrifol am y portffolio addysg yn dweud bod na ddim cynnig i wneud hyn ac wedi cyhuddo Plaid Cymru o "chwarae gemau gwleidyddol."

Dywedodd: "Mae hyn yn nonsens- mae'n annidwyll ac yn gamarweiniol ar y gorau. Yn anffodus bydd honiad fel hyn yn achosi poen meddwl ychwanegol a straen i rheini a phlant sydd yn barod yn ei chael hi'n anodd ymdopi."

Ddydd Gwener mi ddywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae hwn yn un o nifer o gynigion a gyflwynwyd i'w hystyried gan fod y cyngor yn edrych i wneud mwy na £9 miliwn o arbedion ar gyfer y flwyddyn nesaf".

"Mae'n bwysig pwysleisio ein bod, wrth osod y gyllideb ar gyfer 2016/17, wedi gwneud ymrwymiad i gwrdd â'r addewid ysgolion, a fydd mewn gwirionedd yn gweld twf o £1.9m yn ychwanegol ar gyfer ysgolion y sir.

"Rydym wedi ymgynghori'n helaeth ar y cynnig hwn gyda phenaethiaid yr ysgolion, ac yn sicr does dim bwriad y bydd unrhyw effaith ariannol yn cael ei drosglwyddo i rieni."