Gweithwyr dur o Gymru ar eu ffordd i brotest ym Mrwsel
- Published
Mae tua 50 o weithwyr dur o Gymru ar eu ffordd i brotest yng Ngwlad Belg sydd yn digwydd ddydd Llun. Maen nhw'n galw ar yr Undeb Ewropeaidd i achub y diwydiant.
Mae disgwyl i ryw 150 o weithwyr o Brydain fynd i'r rali ac mi fydd 5,000 o weithwyr dur eraill o Ewrop yno hefyd.
Dywedodd Roy Rickhuss o'r undeb Community Union fod angen i'r gwleidyddion "ddechrau amddiffyn ein diwydiant".
Fis diwethaf mi gyhoeddodd Tata Steel y byddai 750 o weithwyr yn colli eu gwaith ym Mhort Talbot.
Mae tua 4,000 yn gweithio yn y ffatri ym Mhort Talbot ac mae Tata yn cyflogi 6,000 ledled Cymru a 17,000 yn y DU.
Pan ddaeth y cyhoeddiad am y diswyddiadau dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones bod y newyddion yn ergyd fawr i'r gymuned ac i'r economi yn ehangach.
Yn ôl Barry Evans, sydd yn gweithio yn y ffatri ym Mhort Talbot ac yn gynrychiolydd Undeb mae'n rhaid gwneud rhywbeth i achub y diwydiant neu mae'r dyfodol yn edrych yn anobeithiol.
"Mae mynd i fod yn orymdaith a rali fawr a gobeithio mi wnaiff pobl dalu sylw. Dyw amser ddim ar ein hochr ni. Mae'n rhaid i hyn ddigwydd yn fuan o achos fydd gyda ni ddim dyfodol. Mi allen ni fod yn siarad am ychydig o fisoedd fan hyn. Dyw e ddim yn gynaliadwy ar y foment."
Ddydd Gwener mi gyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd y bydd yna ymchwiliadau yn digwydd i edrych ar y cynnyrch dur yn China. Mae nifer yn dweud bod dur rhad sy'n cael ei fewnforio o China yn un o'r rhesymau pam bod y diwydiant yn Ewrop yn dioddef cymaint.