Llafur yn cyhoeddi ei 'haddewidion' ar gyfer yr etholiad
- Cyhoeddwyd
Mae Carwyn Jones wedi cyhoeddi chwech o brif addewidion ei blaid ar gyfer etholiad y Cynulliad gan addo llywio Cymru "drwy'r amseroedd caled".
Dywedodd arweinydd Llafur Cymru ei fod hanner ffordd drwy "ddegawd o gyflawni" fel Prif Weinidog.
Daeth ei sylwadau ar ymweliad â ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint, ddydd Llun.
Mae Mr Jones wedi rhoi gofal plant am ddim, trethi is, triniaethau iechyd newydd a phrentisiaethau yn ganolog i'w nod o aros wrth y llyw.
Ond disgrifiodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yr addewid o greu 100,000 o brentisiaethau newydd fel "economeg ffantasi".
Mae Plaid Cymru yn dweud y bydd hi'n creu 50,000 o brentisiaethau.
Dywedodd Mr Jones bod Llafur yn cynnig "help llaw i rieni, i fusnesau, gwella'r safonau mewn ysgolion, rhoi'r driniaeth ddiweddaraf i'r rheiny sy'n wael a thegwch i'r genhedlaeth hyn".
Fel rhan o "chwech o addewidion y blaid", mae hi'n cynnig:
- 30 awr o ofal plant am ddim am 48 wythnos
- Toriadau treth ar gyfer busnesau bach yng Nghymru
- Cynllun i greu 100,000 o brentisiaethau
- Cronfa driniaeth newydd i'r Gwasanaeth Iechyd
- Dyblu'r terfyn cyfalaf ar gyfer y rheiny sy'n mynd i ofal preswyl
- £100m i roi hwb i safonau ysgol
'Cyflawni'
"Yn 2011 fe addewais i ddegawd o gyflawni i bobl Cymru," meddai Mr Jones. "Dywedais er gwaethaf toriadau llym i'n cyllideb, y byddwn yn cyflawni'r addewidion y gwnaethom er mwyn llywio Cymru drwy'r amseroedd caled.
"Rydym hanner ffordd drwy'r daith a'r addewidion y gwnaethom yn yr etholiad diwethaf, rydym wedi cyflawni."
Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Gan adeiladu ar lwyddiant ein cynllun prentisiaethau, byddwn yn cyllido 100,000 o brentisiaethau newydd o bob oed.
"Gan gydnabod bod busnesau bach wrth galon ein heconomi a chymunedau lleol, byddwn yn defnyddio ein pwerau newydd ar raddau busnes i roi toriad treth i holl fusnesau bach y wlad."