Treviso 13-7 Y Gleision
- Cyhoeddwyd

Blaine Scully yn sgorio cais i'r Gleision
Treviso 13-7 Y Gleision
Hon oedd buddugoliaeth gyntaf y tîm o'r Eidal, Treviso ers blwyddyn ac mae llawer o'r diolch i'r chwaraewr o Seland Newydd Jayden Hayward.
Mi gafodd o wyth pwynt i'w glwb yn ystod y gêm yn yr Eidal.
Mi oedd y Gleision ar y blaen wedi'r hanner cyntaf ond mi enillodd Trevisio'r gêm wedi cais cosb yn gynnar yr ail hanner.
Mae'r Gleision felly wedi colli'r cyfle i neidio uwchben y Gweilch yn y gynghrair.