Cymru 27-23 Yr Alban
- Cyhoeddwyd

Cymru 27-23 Yr Alban
Mae Cymru wedi esgyn i'r ail safle ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi buddugoliaeth glos yn erbyn yr Alban adref yng Nghaerdydd.
Gareth Davies gafodd y cais gyntaf wrth iddo ddarganfod bwlch yn amddiffyn Yr Alban ar ôl chwe munud. Ond mi darodd yr ymwelwyr yn ôl gyda chais gan Tommy Seymour. Nhw oedd ar y blaen yn haeddiannol ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Mi oedd yna gyfnod anghyfforddus i chwaraewyr Cymru ond wedi cyfnod o bwyso trwm ar linell Yr Alban mi groesodd Jamie Roberts gan roi Cymru ar y blaen yn yr ail hanner.
Gyda naw munud ar ôl mi ddaeth cais arall gan George North.
Ym munudau olaf y gêm cafodd Duncan Taylor gais gysur i'r Alban.
Dyw'r Alban ddim wedi ennill yng Nghaerdydd ers 2002.
Dim dyma oedd perfformiad gorau Cymru a bydd yn rhaid iddyn nhw godi eu gem er mwyn wynebu Ffrainc ymhen pythefnos.
Cliciwch yma i ddarllen yn ôl drwy'r gêm funud wrth funud, neu ewch i'n is-hafan Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.