Wrecsam 2-0 Bromley
- Cyhoeddwyd

Wrecsam 2-0 Bromley
Mae Wrecsam wedi codi i'r wythfed safle wrth iddyn nhw guro Bromley o ddwy gol i ddim ar y Cae Ras.
Lee Fowler a Connor Jennings gafodd y goliau yn yr hanner cyntaf a hynny ychydig funudau ar ôl ei gilydd.
Ar ôl tair gêm gyfartal mi fydd Wrecsam yn fodlon gyda'r canlyniad.