Y chwilio yn parhau am fenyw o Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru yn dal i apelio am wybodaeth ynglŷn â menyw 57 oed o Gaerdydd. Dyw Lorraine Ridout ddim wedi ei gweld ers iddi adael ei chartref yng Ngabalfa bythefnos yn ôl.
Dros y penwythnos mae ei ffrindiau a theulu wedi bod yn chwilio o gwmaps rhan o'r Afon Taf. Ddydd Sadwrn mi ddaeth mwy na 50 o bobl ynghyd i edrych amdani ac mi oedd swyddogion yr heddlu hefyd yno gyda hofrennydd ac offer archwilio'r afon.
Mae ei mab Peter Ridout wedi dweud eu bod nhw'n pryderu amdani.
Mae swyddogion yr heddlu wedi bod yn siarad gyda phobl sydd yn ein hadnabod ac yn dosbarthu posteri gyda llun ohoni i'r gymuned leol.
Dywedodd yr Arolygydd Ian Randall: "Mae Lorraine yn berson adnabyddus yn y gymuned leol ac mae'r cyfnod yma un yn pryderus iawn i'w theulu a ffrindiau. Mi fydden i'n apelio ar unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda ni."
Mae'n bosib gwneud hynny trwy ffonio'r heddlu ar y rhif 101.