Munster 17- 21 Gweilch
- Cyhoeddwyd

Mi gafodd Rhys Webb ddylanwad ar y gêm
Munster 17-21 Gweilch
Mewn gêm agos mi frwydrodd Y Gweilch yn ôl i gipio buddugoliaeth yn erbyn Munster yn Iwerddon.
Roedd cais Robin Copeland wedi golygu bod Munster ar y blaen o 17-10 wedi'r ail hanner.
Ond pan ddaeth Rhys Webb sydd ddim wedi bod yn chwarae am bum mis ar y cae mi greodd gyfle i Owen Watkins i gael cais.
Dyw Webb ddim wedi chwarae ers iddo gael anaf ym mis Medi wnaeth olygu na chafodd o gêm yng nghwpan y Byd.
Y Gweilch oedd y tîm cryfaf yn yr hanner awr olaf ac mae'r fuddugoliaeth yn golygu ei bod nhw o fewn tri phwynt i'r chweched safle yn y tabl.