Ymosodiad ar fenyw ar ôl iddi brynu peiriant diffygiol

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae'r heddlu yn apelio am dystion ar ôl i ddau ddyn ymosod ar fenyw a chymryd ei harian wedi iddi archebu peiriant golchi ar y wê.

Mi aeth y ddau ddyn i dŷ'r fenyw 39 oed yn Nhrelái brynhawn dydd Sadwrn gyda'r peiriant ac adeg hynny y digwyddodd yr ymosodiad.

Roedd y fenyw wedi dewis y peiriant o wefan Gumtree.

Yn ôl y Prif Arolygwr Joe Jones roedd hwn yn "ymosodiad brawychus" ac mi oedd y fenyw wedi ymateb i'r hysbyseb ar y wefan gydag "ewyllys da".

"Roedd ansawdd yr eitem yn wael iawn a ddim yn gweithio. Cafodd yr arian ei gymryd trwy rym...cyn iddi gael cyfle i edrych ar yr eitem yn iawn."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd unrhywbeth i gysylltu gyda nhw neu unrhyw un sydd wedi cael profiad tebyg trwy ffonio 101.