Ennill, ond teimlad rhyfedd
- Cyhoeddwyd

Ar ôl y teimlad anghyflawn wedi gêm gyfartal yn erbyn Iwerddon yn Nulyn, roedd 'na deimlad digon rhyfedd ar ôl ennill yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd.
Roedd y gêm yn gyfuniad o'r gwych a'r gwachul yn gymysg oll i gyd ond roedd buddugoliaeth i'w ddathlu.
Fe ddechreuodd Cymru ar dân yn rheoli'r cyfnod cynnar yn llwyr ac er bod elfen o lwc yng nghais Gareth Davies - gyda'r dyfarnwr fideo'n methu sylwi ei fod yn camsefyll - fe gymerodd "Cawdor" y cyfle'n gwbl wych a roedd y cais yn gwbl haeddiannol.
Ond wedyn fe gollodd Cymru eu ffordd. Roedden nhw'n llawer rhy oddefol yn ardal y dacl fel oedden nhw yn Nulyn wythnos ynghynt ac fe adawon nhw'r Alban 'nôl mewn i'r gêm.
Dyw'r arbrawf o ddechrau gyda Sam Warburton a Justin Tipuric ddim yn gweithio ac mae effeithlonrwydd y naill yn dwyn pêl yn y dacl a'r llall yn trafod pêl yn y tir agored yn cael ei gyfaddawdu.
Ond mae'r hunan-gred gan y grŵp yma - ffydd yn eu dull o chwarae a ffydd yn eu ffitrwydd i gadw i fynd tan y diwedd a tharo 'nôl.
Dyna welson ni yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd. Dyna welson ni yn Nulyn wythnos ynghynt, a dyna welson ni eto yn erbyn yr Alban brynhawn Sadwrn.
Elfennau newydd 'Warrenball'
Roedd ishe bod yn fwy uniongyrchol a defnyddio maint a phŵer i fwrw'r maen i'r wal. Dyna wnaethon nhw chydig ar ôl awr a chais i Jamie Roberts sydd wedi bod yn gawr yn y bencampwriaeth hyd yma. Ond dyna wnaethon nhw hefyd mewn ffordd llawer mwy cynnil bum munud yn ddiweddarach.
Gyda'r amddiffyn yn canolbwyntio gymaint ar bresenoldeb Jamie a Jon Fox, fe grëwyd bwlch ar y tu fewn a braf gweld George North 'nôl ar ei orau i fanteisio. Ond ar ôl yr holl gyffro braidd yn siomedig oedd gweld Cymru'n methu cadw neu wella ar eu mantais glir a gorfod byw drwy eiliadau nerfus cyn y chwib ola'.
Mae 'na elfennau yn y ddwy gêm sydd wedi plesio'n fawr.
Mae'r sgrym a'r lein wedi bod yn llwyddiant llawer gwell na'r disgwyl. Mae 'na elfen ychwanegol at "Warrenball" - roedd gymaint o alw amdano yno - ond mae eto i'w berffeithio.
Mae 'na elfennau eraill, yn enwedig ardal y dacl, yn dal i beri pryder. O leia' mae pythefnos i weithio a saernïo cyn croesawu Ffrainc - a prin eu bod nhw wedi argyhoeddi eu bod yn haeddu record gant y cant ar ôl dwy gêm. Mae Lloegr ar y llaw arall yn sialens gwbl wahanol.