Pryder am Bale ac Allen

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale leaves the field injured during Real Madrid's win against Sporting Gijon in January 2016Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Gareth Bale yn gadael y cae ar ôl anaf yn erbyn Sporting Gijon

Mae amheuaeth am ffitrwydd Gareth Bale a Joe Allen ar gyfer gemau cyfeillgar Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddon a'r Iwcraen ym mis Mawrth.

Dyw Bale, 26, heb chwarae oherwydd anaf ers buddugoliaeth Real Marid o 5-1 yn erbyn Sporting Gijon ar 17 Ionawr.

Dywed Lerpwl eu bod yn credu na fydd Allen ar gael am "gyfnod" oherwydd anaf i'w goes.

Dywedodd Osian Roberts, dirprwy hyfforddwr Cymru, eu bod yn obeithiol y bydd Bale yn holliach.

"Ond y peth pwysig yw i sicrhau bod yr anaf yn gwella, neu fe allai ddychwelyd," meddai.

Mae'n debyg na fydd Bale ar gael i Real i wynebu Roma ddydd Mercher yng Nghynghrair y Pencampwyr.

"Bydd yn rhaid gweld dros gyfnod o bythefnos tair wythnos, sut mae Bale yn gwella ac wedyn gweld sut mae pethau."

Caerdydd a Kiev

Fe fydd Cymru yn wynebu Gogledd Iwerddon yn Stadiwm Caerdydd ar ddydd Iau 24 Mawrth, a'r Iwcraen yn Kiev bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Mae'n debyg na fydd Allen yn holliach i Lerpwl ar gyfer ffeinal Cwpan y Gynghrair yn erbyn Manchester City ar 28 Chwefror.

"Mae Joe wedi bod yn anffodus gydag anafiadau," ychwanegodd Roberts. "Cyn belled a'r gemau cyfeillgar fydd hi'n agos o ran a fydd o wedi gwella.

"Ond does yna ddim brys, 'da ni'n gwybod sut chwaraewr ydi Joe.

"Y peth pwysig yw sicrhau ei fod o'n holliach, a bod o'n cael rhediad o gemau cyn diwedd y tymor."