Darganfod Janine Loddo yn ddiogel yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Janine LoddoFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae'r heddlu'n dweud bod dynes 36 oed aeth ar goll ar ôl gadael clwb nos yng Nghaerdydd wedi ei darganfod yn ddiogel.

Cafodd Janine Loddo ei gweld ddiwethaf yng nghlwb Popworld ar Heol Eglwys Fair yn y brifddinas nos Wener, 12 Chwefror.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod Ms Loddo, yn wreiddiol o Lanisien yng Nghaerdydd, wedi gadael y clwb heb ei ffôn a'i chôt.

Nos Lun, fe wnaeth yr heddlu gadarnhau bod Ms Loddo gyda swyddog yng ngorsaf trên Heol y Frenhines yng Nghaerdydd.