Cabinet yn penderfynu cau ysgol yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd

Mae aelodau cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo cau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd ddiwedd y flwyddyn ysgol eleni.
Fe fydd disgyblion presennol yr ysgol yn trosglwyddo i Ysgol Borthyn, yn ddibynnol ar ddewis y rhieni.
Cyhoeddodd y Cyngor hysbysiad statudol ar 10 Tachwedd, a daeth y cyfnod statudol o 28 diwrnod i ben ar 7 Rhagfyr.
964 o wrthwynebiadau
Fe dderbyniodd y cyngor cyfanswm o 964 o wrthwynebiadau dros gyfnod yr hysbysiad statudol a bu aelodau'r Cabinet yn trafod crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad mewn cyfarfod ddydd Mawrth yn Neuadd y Dref, Rhuthun.
Cafodd y cynllun gwreiddiol i gau'r ysgol Eglwys yng Nghymru ei wrthod gan y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, yn 2015, ar sail diffygion ym mhroses ymgynghori'r sir.
Ond fe benderfynodd y cyngor i ail-ddechrau'r ymgynghoriad.
Roedd rhieni'r ysgol, Aelodau Cynulliad a'r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn ymgyrchu i gadw'r ysgol ar agor ers bron i ddwy flynedd.
'Mater emosiynol'
Dywedodd y cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg, fod y cabinet yn "llwyr ymwybodol fod hyn wedi bod yn fater hynod o emosiynol i'r rheiny sy'n gysylltiedig â'r ysgol".
Ychwanegodd: "Prif flaenoriaeth ein hadolygiadau ysgolion yw gwella perfformiad mewn addysg ac ansawdd adeiladau ein hysgolion.
"Gyda bron i £20 miliwn yn cael ei fuddsoddi ym mhroses adolygu Rhuthun mae angen i ni barhau i adolygu darpariaeth ysgol ar draws y sir i sicrhau ein bod yn darparu'r nifer cywir o leoedd ysgol, a'u bod o'r math cywir, yn y lleoliad cywir.
"Mae'n rhaid i ni ymdrin â materion sy'n ymwneud â lleoedd gwag mewn ysgolion o fewn adolygiad Rhuthun ac mae cau Ysgol Llanbedr yn rhan o'r broses hon."