Ailfeddiannu cartrefi ar ei isaf ers dros ddegawd
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y cartrefi sy'n cael eu hailfeddiannu yng Nghymru wedi haneru dros y flwyddyn ddiwethaf, ac ar ei lefel isaf ers dros ddegawd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Fe wnaeth beilïaid ailfeddiannu 491 o dai yn 2015, o'i gymharu â 955 yn 2014.
Mae ffigyrau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos bod nifer yr ailfeddiannau ar i lawr ers 2008 pan wnaeth bron i 2,500 o bobl golli eu cartrefi.
Y ffigyrau diweddaraf hefyd yw'r isaf ers 2004.
Dywedodd y Cyngor Benthycwyr Morgeisi bod y ffigyrau'n cyd-fynd â gweddill y DU, a bod hyn oherwydd cyfraddau morgeisi isel a chynnydd mewn cyflogaeth.
Ond rhybuddiodd berchnogion i feddwl ymlaen at pan fydd cyfraddau llog yn codi.