Sglefrio i'r dyfodol

  • Cyhoeddwyd
blue tent

Mae'r Cardiff Devils yn paratoi at eu tymor llawn cyntaf yn eu cartref newydd ym Mae Caerdydd. Bydden nhw yn croesawu Medveščak Zagreb i Ganolfan Iâ Cymru ym mae Caerdydd, nos Sadwrn 13 Awst. Gêm gyfeillgar ydy hon cyn i'r tymor ddechrau o ddifri ar 10 Medi

Mae Todd Kelman, rheolwr y Cardiff Devils, yn edrych ymlaen at setlo yn y cartre newydd ar ôl i'r tîm symud o'r Big Blue Tent

"Bydd dau rink iâ yn y lleoliad newydd, sy'n galluogi'r chwaraewyr i ymarfer yn amlach ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i'r cyhoedd sglefrio hefyd. Bydd timau eraill yn y ddinas yn cael mwynhau y cyfleusterau hefyd, nid ond y Devils.

"Ond bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn y lleoliad yn ogystal â hoci iâ, fel cystadleuthau sglefrio a chwrlo. Yn fy marn i dyma'r cyfleusterau gorau yn y DU."

Fe enillodd y Devils y Cwpan Her llynedd drwy guro'r Sheffield Steelers, ond mae'n debyg mai yn yr 90au ddaeth cyfnod euraidd y tîm.

Roedd y Devils yn Bencampwyr Prydain bedair gwait yn y '90au.

Disgrifiad o’r llun,
Y 'Big Blue Tent' ym Mae Caerdydd, cartref y Devils rhwng 2006 a 2016

Mae Todd Kelman hefyd yn ceisio denu rhai o glybiau mwyaf Ewrop i chwarae yng Nghaerdydd:

"Dwi'n gobeithio y bydd yn bosib denu rhai o dimau Sweden, Y Ffindir a'r Almaen i'n cartref newydd - wnaethon ni chwarae yn erbyn Brest Albatros ddwywaith yn Llydaw yr wythnos d'wethaf, ac fe ddaethon nhw i Gaerdydd i chwarae yn ein herbyn ni cyn i'r tymor ddechrau ym mis Awst. Fe lwyddon ni i ennill y pedair gêm yn eu herbyn.

"Dwi'n meddwl bod rhai cefnogwyr yn poeni na fydd yr awyrgylch cystal yn ein cartref newydd. Ond dwi'n ffyddiog y gallen ni ail-greu yr awyrgylch o'r Big Blue Tent, a'i wneud hyd yn oed yn well!"

Disgrifiad o’r llun,
Mae lle i dros 3,100 o gefnogwyr yn y stadiwm newydd

Mae Dan Williams a Rhys Roberts yn chwarae i'r Cardiff Eagles, un o glybiau hoci iâ Caerdydd a fydd yn rhannu yr un cyfleusterau â'r Devils.

Dywedodd Dan: "Mi fydd 'na atgofion melys o'r Devils yn y 'Big Blue Tent', fel pan wnaethon nhw ennill y Gwpan Her nôl yn 2006.

"Fe gollodd y Devils y gêm gynta yn erbyn Coventry Blaze 3-0, cyn ennill yr ail gymal 4-1 ac ymlaen i ennill yn y shootout. Fe wnaethon nhw ennill y gystadleuaeth y llynedd hefyd, ond oddi cartref oedd hynny.

"Ond wrth gwrs dim ond cartref byr-dymor oedd y safle cyn setlo i adeilad newydd. Cafodd cartref cynta' y Devils ei ddymchwel yn 2006 er mwyn gwneud lle i siop John Lewis yng nghanol y dref."

Adnoddau i'r dyfodol

"Mae cael yr adnoddau 'ma i ddatblygu athletwyr i'r dyfodol mewn chwaraeon fel curling, figure skating, speed skating yn ogystal â hoci iâ yn hanfodol ac yn rhoi cyfle i bawb gymryd rhan.

"Yn bendant mae safon uchel tîm y Devils ar y funud, ynghŷd â'r adeilad newydd wedi creu mwy o ddiddordeb i'r gamp yng Nghaerdydd. Mae chwaraeon iâ yn cael i'w hystyried yn rhai lleiafrifol ym Mhrydain, felly y mwyaf o sylw maen nhw'n yn eu cael, y gorau oll yn fy marn i."

Ychwanegodd Rhys Roberts: "Mae'r Devils yn cael tymor gwych ar hyn o bryd. Ond bydd y rink newydd hefyd yn gymorth i'r timau iau, timau'r Brifysgol a'r timau merched.

"Mi fydd hi'n haws i dimau fel ni (Cardiff Eagles) i ymarfer hefyd, gan y bydd mwy o adnoddau sy'n golygu fydd ddim rhaid ymarfer tan hanner nos, pan fo'r iâ yn rhydd. Mae'r rink newydd yn fwy hefyd, felly fydd hi'n brofiad braf cael chwarae ar un maint Olympaidd.

"Mae safon yr hoci yn gwella yng Nghaerdydd, o'r timau iau i'r tîm proffesiynol. Bydd cael cyfleusterau newydd yn cyfrannu at hyn, a gyda llwyddiant presennol y Devils allai ond rhagweld y bydd y gêm yn tyfu'n Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,
Jake Morrisette o Ganada, un o sêr y Devils y tymor hwn