GIG: Y Ceidwadwyr i 'gapio taliadau' uwch reolwyr

  • Cyhoeddwyd
Darren Millar
Disgrifiad o’r llun,
Byddai'r drefn newydd yn "deg i'r trethdalwr", meddai Darren Millar

Byddai taliadau i uwch swyddogion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael eu capio o dan gynlluniau'r Ceidwadwyr Cymreig.

Mae'r blaid yn dweud bod 1,615 o staff wedi derbyn cyflog o dros £100,000 y flwyddyn yn 2014/15 - ffigwr sy'n cynnwys meddygon.

Mae'r ffigwr yma'n cymharu â 1,515 yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

Byddai llywodraeth Geidwadol hefyd yn ymrwymo i adolygu taliadau uwch reolwyr o fewn y gwasanaeth.

Yn ôl llefarydd iechyd y blaid, Darren Millar, byddai'r drefn yn "deg i bawb o fewn y gwasanaeth iechyd ac yn deg i'r trethdalwr".

Daeth i'r amlwg ym mis Tachwedd bod bwrdd iechyd mwyaf Cymru, Betsi Cadwaladr yn parhau i dalu cyflog £200,000 ei gyn prif weithredwr tra'i fod yn gweithio yn Lloegr.

Mae Trevor Purt wedi cael secondiad i wasanaeth iechyd dros Glawdd Offa am 12 mis.

'Llond bol'

Dywedodd Mr Millar: "Mae pobl Cymru wedi cael llond bol o uwch reolwyr yn gadael y gwasanaeth iechyd yng Nghymru gyda thaliadau chwe ffigwr allai llawer ond breuddwydio amdano.

"Mae'n amser rhoi diwedd ar y system sy'n ymddangos i wobrwyo methiant a'i ailosod gydag un sy'n deg i bawb yn y gwasanaeth iechyd ac sy'n deg i'r trethdalwr.

"Dyw Cymru methu fforddio rhoi taliadau ffarwel euraidd i bobl sy'n gadael byrddau iechyd dan gwmwl, yn enwedig pan mae'r gwasanaeth iechyd yn sigledig o ganlyniad i doriadau Llywodraeth Lafur Cymru."