Dathlu a diolch

  • Cyhoeddwyd
Y dorf yn joio mas draw yng Ngwobrau'r Selar 2015Ffynhonnell y llun, Bethan Evans Celf Calon/ Y Selar
Disgrifiad o’r llun,
Y dorf yn joio mas draw yng Ngwobrau'r Selar 2015

Bydd goreuon y sîn roc Gymraeg yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau'r Selar yn Aberystwyth ar nos Sadwrn, 20 Chwefror. Pwy fydd yn dod i'r brig ar un o achlysuron mawr y calendr cerddoriaeth?

Lisa Gwilym, cyflwynydd C2 BBC Radio Cymru, ac enillydd gwobr y Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau bum mlynedd yn olynol, sy'n edrych ymlaen at y dathliadau:

Ar i fyny

Bum mlynedd yn ôl, fe sgwennodd Owain Schiavone y geiriau "RIP SRG". Yn ôl ei erthygl danllyd, roedd y sîn gyfoes Gymraeg ar farw; gwyliau mawr yn dod i ben, gigs yn brin a chynulleidfa yn fwy prin fyth.

Ar ddechrau 2016, mae'r sefyllfa'n teimlo'n wahanol iawn. Mae grwpiau fel Sŵnami, Candelas ac Yws Gwynedd wedi meithrin cynulleidfa ac yn denu cannoedd o bobol ifanc i'w gigs.

Yn y gogledd, mae criw 4 a 6 wedi dangos fod posib creu nosweithiau lleol llwyddianus yn rheolaidd - er bod hynny'n waith caled.

Mae'r Ffug, Cpt Smith ac Ysgol Sul wedi creu sŵn arbennig iawn yn y gorllewin, ac Aelwyd Penllyn yn ysbrydoli pobol ifanc yn y canolbarth, tra bod Gwenno a 9 Bach yn lledaenu'r neges yn rhyngwladol.

Ffynhonnell y llun, Bethan Evans Celf Calon / Y Selar
Disgrifiad o’r llun,
Trefnwyr nosweithiau 4 a 6 yng Nghaernarfon oedd yr Hyrwyddwyr Gorau y llynedd

Er gwaetha'r amgylchiadau anodd, mae'r gerddoriaeth newydd sy'n cael ei chreu yng Nghymru yn anhygoel - yn well nag erioed, ac mae'n fraint cael chwarae'r gerddoriaeth yma yn wythnosol ar C2 mewn cyfnod mor gyffrous.

Canolbwynt y sîn

Y penwythnos yma fe gawn ni ymateb Owain Schiavone ei hun i'r "argyfwng" yn 2011 - Gwobrau'r Selar.

Ers y noson gynta' yn Neuadd Hendre 'nôl yn 2013, mae'r Gwobrau wedi tyfu i fod yn ganolbwynt i'r sîn, a be' bynnag 'da chi'n feddwl o'r rhestrau byr a'r enillwyr, does dim dwywaith fod y noson wedi llwyddo i greu rhywbeth arbennig iawn, drwy drefnu digwyddiad sy'n dyrchafu ein hartistiaid - yn rhoi llwyfan a chynulleidfa deilwng iddyn nhw.

Mae 'na gryn sôn hyd heddiw am gigs chwedlonol Sgrech, am y cewri yng Nghorwen, am gigs Pafiliwn y Bont a Phlas Coch - ond y penwythnos yma, mae 'na gyfle i fod yn rhan o rywbeth yr un mor arbennig, ac mae'n bwysig i ni sylweddoli a chydnabod hynny - a gwneud y mwyaf ohonno' fo.

Disgrifiad o’r llun,
Candelas - Band gorau 2015

Does neb am ddadlau fod y dyfodol am fod yn hawdd - fe ges i drafodaeth am ddyfodol y sîn ar y rhaglen yn ddiweddar, ac mae'n amlwg fod y diwydiant cerddoriaeth yn parhau i newid yn anhygoel o gyflym, a lle cerddoriaeth Gymraeg o fewn y diwydiant, mor fregus ag erioed.

Ond falle fod tueddiad ganddom i edrych yn ôl tuag at oes aur y 70au ac Edward H, neu at boblogrwydd rhyngwladol grwpiau Cŵl Cymru ac i ramanteiddio.

Mae rŵan yn teimlo fel adeg arbennig iawn, a'r penwythnos yma 'da ni'n cael cyfle i weiddi am hynny. Cyfle i ddathlu a diolch - cyfle i ledaenu'r neges fod 'na gerddoriaeth anhygoel yn cael ei chreu ym mhob cwr o Gymru ar hyn o bryd. Wela'i chi yno!

Uchafbwyntiau ar raglen Lisa Gwilym, C2 BBC Radio Cymru, nos Fercher, 24 Chwefror, 19:00.

Ffynhonnell y llun, Bethan Evans Celf Calon / Y Selar
Disgrifiad o’r llun,
Sŵnami yn perfformio yng Ngwobrau'r Selar 2015