Cynllun arloesol i fynd i'r afael â thrais yn y cartref
- Cyhoeddwyd

Bydd dynion yn ne Cymru all beryglu eraill drwy fod yn dreisgar yn y cartref yn cael cefnogaeth i newid eu hymddygiad fel rhan o gynllun peilot.
Mae'r cynllun, y cyntaf o'i fath ym Mhrydain, yn cael ei dreialu yn ne Cymru, Essex a Sussex.
Bydd y prosiect yn cynnig cymorth mewn amryw o feysydd, gan gynnwys iechyd meddwl, dibyniaeth, gwaith a thai.
Mae un ddynes fu'n ddioddef o drais yn y cartref am 18 mlynedd wedi dweud y gallai'r cynllun newid "cyfeiriad meddwl" troseddwyr treisgar.
'Gwneud yn atebol'
Er bod nifer o gynlluniau eisoes yn bodoli ar gyfer troseddwyr treisgar, mae'r cynllun newydd - Drive - â'r bwriad o fod yn wahanol.
Mae'n cael ei anelu at y troseddwyr mwyaf peryglus, yn cynnwys y rheiny sydd mewn perygl o achosi niwed difrifol neu hyd yn oed ladd eu partner.
Roedd Rachel Williams, 44 oed o Gasnewydd, yn dioddef o drais yn y cartref am 18 mlynedd
"Os wyt ti ddim yn delio gyda'r troseddwr, fe fyddan nhw'n symud ymlaen at y person nesaf."
Wedi iddi wneud cais am ysgariad yn 2011 , fe wnaeth cyn-ŵr Ms Williams, Darren, ei saethu yn ei choes cyn lladd ei hun.
Dywedodd Ms Williams y byddai ei chyn-ŵr wedi cael budd o'r cynllun.
"Mae'n rhaid i ni geisio newid cyfeiriad meddwl y troseddwr a'u gwneud yn atebol am eu hymddygiad," meddai.
Cefnogaeth
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gynlluniau sy'n bodoli eisoes, bydd troseddwyr yn cael sesiynau personol gydag arbenigwyr, yn hytrach na therapi mewn grŵp.
Bydden nhw'n cael cefnogaeth i fynd i'r afael â phroblemau yn ymwneud ag alcohol, cyffuriau neu unrhyw broblemau iechyd meddwl.
Bydd y cynllun hefyd yn cynnig cyngor am gyflogaeth, tai a bywyd teuluol.
Pe bai troseddwr yn gwrthod cymryd rhan yn y cynllun, byddai'r unigolyn yn cael ei fonitro gan yr heddlu, a gall hynny arwain at achos gyfreithiol.
'100,000 mewn perygl'
Dywedodd Diana Barran, prif weithredwr elusen SafeLives - sy'n cefnogi'r cynllun: "Er bod gwelliannau sylweddol ar gyfer diogelwch dioddefwyr yn y DU, mae 100,000 o ferched yn byw mewn perygl o drais ar unrhyw adeg.
"Os nad ydyn ni'n gwneud troseddwyr yn atebol, byddwn yn parhau i weld y ffigyrau'n aros ar yr un lefel."
Mae disgwyl y bydd 900 o droseddwyr yn cael gorchymyn i gymryd rhan yn y cynllun dros y tair blynedd nesaf.