BBC Cymru Fyw

Matthew Pewtner wedi gorfod ymddeol ar gyngor meddygol

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Mae asgellwr y Dreigiau, Matthew Pewtner wedi gorfod ymddeol yn 25 oed ar gyngor meddygol.
Dywedodd y rhanbarth mewn datganiad nad oedd y chwaraewr wedi gwella o anaf i'w ben.
"Rydw i'n torri fy nghalon 'mod i wedi gorfod ymddeol oherwydd anaf," meddai.
"Mae hi wedi bod yn anodd iawn dod i dermau â hyn, ond rwy'n gwybod mai dyma'r penderfyniad cywir.
Ychwanegodd gyfarwyddwr rygbi'r Dreigiau, Lyn Jones: "Rydyn ni oll yn drist iawn bod rhaid i Matthew ymddeol.
"Ry'n ni oll yn ddiolchgar iawn am gyfraniad enfawr Matthew i'r tîm trwy'r blynyddoedd a ry'n ni'n dymuno'r gorau iddo ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Pewtner ei fod yn bwriadu astudio i fod yn athro.