12,000 yn llai yn ddi-waith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r ffigyrau diweithdra diweddara'n dangos bod 12,000 yn llai o bobl yn ddi-waith yng Nghymru nag yr oedd dri mis yn ôl.
Mae cyfanswm o 80,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru, sef 5.3% o'r gweithlu - o'i gymharu â'r cyfartaledd ledled y DU o 5.1%
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb bod mwy o bobl Cymru nag erioed o'r blaen mewn cyflogaeth.
"Ond mae'r cyhoeddiad diweddar am ddiswyddiadau ym Mhort Talbot yn dangos bod yr economi byd eang yn un ansefydlog," meddai.
"Ond fe fydd y llywodraeth yn parhau i geisio creu'r amgylchiadau cywir er mwyn i fusnesau lwyddo, gan ddenu swyddi da i Gymru."