Penderfynu ar enw i garchar newydd Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i'r carchar newydd fod yn barod erbyn 2017
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi penderfynu ar enw ar gyfer y carchar newydd sy'n cael ei adeiladau yn Wrecsam.
Carchar HMP Berwyn fydd y mwyaf ym Mhrydain pan fydd yn agor yn llawn, a bydd yn gartref i dros 2,000 o droseddwyr.
Yn ôl y weinyddiaeth, mae'r enw sydd wedi ei ddewis yn adlewyrchu "etifeddiaeth cyfoethog a hanes cyfoethog" gogledd Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Carchardai, Andrew Selsous: "Roeddwn yn falch o weld faint o bobl wnaeth ymateb i'r cais am enw ar y carchar."
Yn ôl llywodraethwr y carchar newydd, Russ Trent, mae cael yr enw cywir yn bwysig.
"Yn bersonol rwy'n hapus iawn gyda'r enw oherwydd rwy'n teimlo ei fod yn adlewyrchu diwylliant a hanes Cymru," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2015