Canser: Amseroedd aros yn gwella

  • Cyhoeddwyd
Cell canser y fronFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru mae'r amseroedd aros i gleifion canser wedi gwella.

Ym mis Rhagfyr 2015, fe wnaeth 98.9% o unigolion ddechrau ar eu triniaeth o fewn yr amser targed - y perfformiad gorau i gael ei gofnodi ers mis Hydref 2013.

Targed Llywodraeth Cymru yw 98%.

Hefyd, mae'r ffigyrau dweud bod 86.2% o unigolion wedi dechrau ar eu triniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau o gael eu hatgyfeirio fel achos brys lle'r oedd y meddyg teulu yn amau bod ganddynt ganser.

Mae hyn yn well na ffigwr mis Tachwedd, sef 84.3%, a'r perfformiad gorau ers Gorffennaf 2015.

Dywedodd Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd: "Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy nag 16,000 o bobl yng Nghymru wedi cael triniaeth am ganser gan GIG Cymru.

"Cafodd mwy na 14,700 eu trin o fewn yr amser targed - 9,000 o fewn y targed o 31 o ddiwrnodau."