Dyn yn honni i ddynes gydsynio i ryw
- Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd dyn sydd wedi ei gyhuddo o dreisio menyw 20 oed yng Nghaerdydd y gallai hi fod "wedi dweud na" wrtho.
Mae Reemus Hamza, 40, wedi ei gyhuddo o ymosod ar y fenyw ger tir Prifysgol Caerdydd wrth iddi hi gerdded adref ar 20 Medi, 2015.
Yn ôl yr erlyniad, roedd y fenyw mor feddw fel nad oedd yn bosib iddi gydsynio i gael rhyw.
Mae Hamza, sy'n wreiddiol o Rwmania, yn gwadu cyhuddiad o dreisio.
Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Mr Hamza i'r fenyw wenu arno a'i gusanu yn ôl, ond na ddwedodd hi unrhyw beth wrtho.
Gyda chymorth cyfieithydd dywedodd Mr Hamza: "Roedd y ferch yn edrych arnaf, yn chwerthin, yn gwenu - ro ni'n meddwl ei bod hi'n gwenu oherwydd ei bod yn fy hoffi, ac fe wnes i gydio yn ei phen ôl.
"Wedyn wnaeth hi wenu a chwerthin... fe wnaeth hi ddod gyda mi heb i mi orfod ei gorfodi o gwbl.
"Pe na bai hi eisiau cael rhyw y noson honno yna byddai wedi gallu dweud na."
Fe wnaeth o gyfaddef fod y fenyw wedi meddwi, ond ei bod hi yn gwybod beth oedd yn digwydd.
Dywedodd nad oedd wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi cael rhyw gyda'r ddynes oherwydd embaras ac oherwydd i'w gyfreithiwr ddweud wrtho am beidio â dweud unrhyw beth.
Clywodd y llys fod Mr Hamza wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ddinoethiad anweddus yn 2014.