Apêl ar ôl canfod corff dyn mewn afon

Brian Stacy Hayes Image copyright South Wales Police/BBC

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi iddyn nhw ddod o hyd i gorff dyn mewn afon ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Fe ddaeth corff Brian Stacy Hayes o Nantyffyllon, Maesteg, i'r fei yn Afon Llynfi ddydd Llun.

Roedd Mr Hayes, oedd yn cael ei adnabod fel Stacy i'w deulu a'i ffrindiau, wedi bod ar goll o'i gartref ers cyn y penwythnos.

Mae swyddogion Heddlu'r De yn ceisio creu darlun o'i symudiadau cyn i'w gorff gael ei ddarganfod, ond ar hyn o bryd dydyn nhw ddim yn credu bod achos ei farwolaeth yn amheus.

Y tro diwethaf iddo gael ei weld oedd am 11:00 ar ddydd Gwener 12 Chwefror.