Dau o heddluoedd Cymru 'angen gwella'
- Cyhoeddwyd

Mae dau o heddluoedd Cymru angen gwella'r modd y maen nhw'n cadw pobl yn ddiogel ac yn lleihau troseddu.
Dyna ganlyniad arolwg gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, sy'n dweud bod Heddlu Dyfed Powys a Heddlu Gogledd Cymru "angen gwelliannau".
Mae'r arolwg yn dilyn archwiliad o'r 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n gosod bob llu mewn un o bedwar categori: Rhagorol, Da, Angen Gwella a Diffygiol.
Roedd Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent yn y categori 'Da' tra bod y ddau arall yn y categori is.
Dyfed Powys
Wrth fanylu, dywedodd yr adroddiad bod angen i Heddlu Dyfed Powys gydnabod yr angen i weithio gyda phartneriaid er mwyn lleihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Maen nhw hefyd angen gwneud gwelliannau yn y modd y maen nhw'n adnabod dioddefwyr bregus, a defnyddio hynny wrth benderfynu sut i ymchwilio i wahanol droseddau.
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Christopher Salmon:
"Er i mi gael fy ethol yn 2012 mae gennym fwy o swyddogion yn treulio mwy o amser ar strydoedd ein cymunedau.
"Mae mwy o swyddogion yn ymchwilio i'r troseddau mwyaf difrifol ac mae Hwb Cymorth wedi cynyddu'r gefnogaeth i ddioddefwyr.
"Mae wastad mwy i'w wneud, ond rwy'n hyderus bod Dyfed Powys yn effeithiol wrth gadw pobl yn ddiogel a lleihau troseddu."
Gogledd Cymru
Fe ddywed yr adroddiad bod Heddlu'r Gogledd yn perfformio'n dda o safbwynt atal troseddu ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol, ac wrth daclo trosedd ddifrifol, ond roedd agweddau eraill angen gwelliannau.
Nid oedd y polisi o ddosbarthu achosion o drosedd i swyddogion yn cael ei ddeall yn llawn gan y gweithlu. Roedd esiamplau o swyddogion yn ymgymryd ag ymchwiliadau oedd y tu hwnt i'w lefel o hyfforddiant a phrofiad.
Ymhlith yr achosion yna roedd rhai o drais yn y cartref lle'r oedd risg uchel.
Er bod gan Heddlu'r Gogledd brosesau effeithiol i ddelio gyda bygythiad grwpiau troseddol difrifol - yn bennaf ym maes cyffuriau - roedd dealltwriaeth y llu o fygythiadau cymharol newydd megis masnachu pobl angen mwy o ffocws a datblygiad.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Winston Roddick:
"Dros bum mlynedd fe welodd gogledd Cymru leihad o 17.4% mewn troseddu, sy'n well na'r cyfartaledd i Gymru a Lloegr o 12.6%.
"Mae'r Prif Gwnstabl yn derbyn, fel yr wyf innau, bod lle i wella bob tro a gyda'n gilydd rhaid i ni sicrhau bod y gwelliannau gafodd eu hargymell gan HMIC yn digwydd cyn gynted â phosib.
"Yn wir mae nifer o'r gwelliannau eisoes wedi cael eu gwneud, ac rydym yn gweithio ar y lleill."
Ffafriol
Wrth ymateb i adroddiad ffafriol o waith Heddlu Gwent, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd yr ardal Ian Johnston:
"Mae'n braf clywed bod yr holl waith caled yn cael ei gydnabod gan HMIC. Mae'r adroddiad yn newyddion da, a'r her nawr yw adeiladu ymhellach ar ganfyddiadau'r archwilwyr."
Yn yr un modd roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru Alun Michael yn hapus gyda'r canlyniad i'w lu yntau, gan ddweud:
"Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y blaenoriaethau a osodwyd gan y Prif Gwnstabl a finnau yn dangos ymrwymiad cryf i atal trosedd, i gefnogi dioddefwyr ac i weithio mewn partneriaeth."