Teithwyr trenau Arriva ymhlith y lleiaf bodlon yn ôl arolwg
- Cyhoeddwyd

Gorlenwi, dim gwerth am arian a cherbydau budr yw rhai o brif bryderon teithwyr trenau, yn ôl arolwg gan gwmni Which?
Holodd Which? 7,000 o deithwyr ym mis Tachwedd y llynedd ac 49% oedd y sgôr bodlonrwydd cyfartalog ar gyfer Trenau Arriva Cymru.
Mae hyn yn golygu bod Arriva ymhlith y gwaelod yn yr arolwg. Ond teithwyr yn ne ddwyrain Lloegr yw'r lleiaf bodlon gyda dim ond 46% yn hapus gyda'r gwasanaeth.
Grand Central oedd ar y brig gyda 79% o deithwyr yn dweud eu bod yn fodlon. Derbyniodd y gwasanaeth bum seren am fod seddi ar gael, bod eu trenau yn lân a phrydlon, a'u bod yn cynnig gwerth am arian.
Wrth ymateb i'r arolwg mae Rail Delivery Group, sydd yn cynrychioli trenau Arriva, wedi cyfeirio at yr arolwg gan Transport Focus fis diwethaf.
Buddsoddi biliynau
Dangosodd yr arolwg hwnnw fod teithwyr yn fwy bodlon gyda'r gwasanaeth y llynedd gydag 83% yn dweud eu bod yn fodlon gyda'r trenau.
Dywedodd llefarydd: "Mae'n ddrwg gennym ni pan nad yw ein teithwyr yn cael y gwasanaeth maen nhw'n disgwyl. Dydyn ni byth eisiau i bobl ddioddef o achos oedi.
"Mae bodlonrwydd ymhlith teithwyr trenau yn sylweddol yn uwch yn ôl arolwg annibynnol gan Transport Focus. Ond mi ydyn ni yn gwybod y gallwn ni wneud mwy i wneud yn siŵr bod trenau yn rhedeg ar amser yn fwy aml.
"Mae biliynau yn cael eu gwario ar y rheilffyrdd i gynhyrchu gwell gorsafoedd, gwell trenau a gwella siwrneiau."