Mis Ionawr y 'prysuraf ar gofnod' i unedau brys

  • Cyhoeddwyd
ysbytyFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mis Ionawr eleni oedd yr un prysuraf ar gofnod i adrannau gofal brys yng Nghymru wrth i'r nifer uchaf erioed o gleifion fynd am gymorth.

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod y gyfran o bobl fu'n disgwyl am dros bedair awr yn yr unedau brys wedi cynyddu ym mis Ionawr o'i gymharu â mis Rhagfyr.

Yn ôl yr ystadegau fe aeth 2,595 o gleifion y diwrnod - ar gyfartaledd 108 o bobl yr awr - i adrannau brys yn ystod y mis.

Fe dreuliodd 78.5% ohonyn nhw lai na pedair awr mewn unedau brys difrifol neu fân - o'i gymharu â 81.4% fis Rhagfyr 2015 a 82.4% fis Ionawr 2015.

Cynnydd

Targed Llywodraeth Cymru yw y dylai 95% o gleifion aros am lai na pedair awr mewn adrannau gofal brys.

Ionawr ydi un o'r misoedd prysuraf i'r gwasanaeth am ofal brys.

Ond mae'r ffigyrau yn dangos cynnydd yn nifer y cleifion aeth i adrannau brys o'i gymharu â'r gaeaf diwethaf.

Fe aeth 80,438 o bobl i'r unedau ar draws Cymru ym mis Ionawr 2016 o'i gymharu â 73,435 yn yr un cyfnod llynedd.

Prysuraf 'ers dechrau cofnodi'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae'r ystadegau hyn yn dangos mai mis Ionawr 2016 oedd y mis Ionawr prysuraf i'r adrannau brys ers dechrau cofnodi 10 mlynedd yn ôl yn 2006.

"Gwnaeth y gwasanaeth iechyd brofi a rheoli cynnydd cyfartalog o 10% yn y nifer a fynychodd adrannau brys y llynedd."

Ar rai diwrnodau ym mis Ionawr, roedd nifer y bobl a fynychodd adrannau brys "hyd at 25% yn uwch na'r un adeg y llynedd", meddai Mr Gething.

Ychwanegodd: "Mae'r wybodaeth reoli hefyd yn dangos bod nifer yr ambiwlansys a gyrhaeddodd ysbytai hyd at 25% yn uwch y mis Ionawr hwn na'r cyfartaledd y llynedd.

"Er gwaethaf hyn, mae staff ein gwasanaeth iechyd yn parhau i reoli'r cyfnodau o gynnydd sydyn mewn galw ac er bod ein hysbytai'n brysur iawn mae cyfnodau o bwysau ar adegau."