Gwobr deledu i raglen ddogfen April Jones BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Fe aeth April Jones ar goll ym Machynlleth yn 2012. Carcharwyd Mark Bridger am oes yn ddiweddarach
Mae rhaglen ddogfen fu'n dilyn bywydau teulu April Jones wedi llofruddiaeth y ferch bump oed yn 2012 wedi ennill gwobr.
Fe ddisgrifiodd beirniaid y Gymdeithas Deledu Frenhinol raglen 'Life After April' gan dîm Week In Week Out BBC Cymru fel "newyddiaduraeth arbennig".
Ychwanegodd y grŵp ei bod wedi "mynd â ni yn ddwfn i drawma teulu oedd yn galaru colled eu merch".
Dywedodd rhieni April Jones wrth y rhaglen eu bod yn credu y dylid cynnig cymorth i bobl sy'n credu y byddant yn camdrin plant yn rhywiol cyn iddyn nhw droseddu.
Enillodd y rhaglen wobr Materion Cyfoes y Gwledydd a'r Rhanbarthau.
Bu'r newyddiadurwr o Gaerdydd, Jeremy Bowen, hefyd yn fuddugol yn y categori Cyfweliad y Flwyddyn wedi ei gyfweliad gydag Arlywydd Syria, Bashar al-Assad.