Rhybudd am ffyrdd rhewllyd ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew ar ffyrdd Cymru gyfan.
Cafodd y rhybudd ei gyhoeddi fore Iau, ac fe fydd mewn grym o 20:00 nos Iau, 18 Chwefror tan 10:00 fore Gwener, 19 Chwefror.
Fe ddywed y rhybudd y bydd cawodydd o law neu genllysg yn disgyn, ond fe fydd y rheini'n disgyn fel eira neu eirlaw dros dir uchel i mewn i nos Iau.
Oherwydd cyfnodau cliriach rhwng y cawodydd, mae'r tymheredd yn debyg o ddisgyn y tu hwnt i'r rhewbwynt, gan adael i rew ffurfio ar ffyrdd sydd heb eu graeanu.
Mae'r rhybudd mewn grym ym mhob sir yng Nghymru.