Snwcer: Un Cymro'n dal yn y ras
- Cyhoeddwyd

Wrth i Bencampwriaeth Snwcer Agored Cymru gyrraedd y rowndiau tyngedfennol, mae yna un Cymro yn dal yn y ras.
Fe sicrhaodd Michael White ei le yn rownd yr wyth olaf drwy guro'r pencampwr presennol John Higgins brynhawn Iau.
Bu sawl sylwebydd yn canu clodydd White wedi perfformiad gwych a'i gwelodd yn curo Higgins o 4-1, ac fe ddywedodd neb llai na Ronnie O'Sullivan fod gan y Cymro "bopeth yn rhan o'i gêm" i fod yn bencampwr yn y dyfodol.
Bydd White yn wynebu Mark Allen o Ogledd Iwerddon yn y rownd nesaf.
Mae O'Sullivan ei hun wedi cyrraedd yr wyth olaf gyda buddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Yu Delu.
Yno bydd yn wynebu Mark Selby - rhif un y byd - wedi iddo yntau ddod â phencampwriaeth Cymro arall i ben. Fe gurodd Selby Mark Williams o 4-2.
Y lleill sydd wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf yn barod yw Neil Robertson a Ben Woollaston.
Bydd Luca Brecel yn herio Ding Junhui a Judd Trump yn wynebu Joe Perry nos Iau am y ddau le sy'n weddill.