Sut i ddefnyddio ap BBC Cymru Fyw ar ddyfeisiau Android

  • Cyhoeddwyd

Mae ap BBC Cymru Fyw yn cynnig gwasanaeth byw Cymraeg sy'n cynnwys y newyddion a'r gorau o Gymru ar flaenau eich bysedd. Dyma'r hyn sydd yn yr ap:

  • Prif Straeon - y prif straeon newyddion
  • Cylchgrawn - erthyglau nodwedd, darnau barn, blogiau, orielau lluniau a llawer mwy
  • Gwleidyddiaeth - hynt a helynt y byd gwleidyddol yng Nghymru
  • Newyddion lleol - y prif straeon newyddion ac erthyglau nodwedd o'ch ardal chi (Gogledd-Ddwyrain, Gogledd-Orllewin, Canolbarth, De-Ddwyrain, De-Orllewin)
  • Radio - cyfle i wrando'n fyw ar eich hoff raglenni ar BBC Radio Cymru
  • Cyfrannu - anfonwch eich straeon, negeseuon a lluniau'n syth at BBC Cymru Fyw

Mae llif byw dyddiol Cymru Fyw hefyd ar gael ar yr ap (sef y diweddaraf o Gymru mewn llif o bytiau a dolenni i wefannau amrywiol). Gallwch ei ddilyn drwy dapio ar y stori 'YN FYW' yn yr adran Prif Straeon.

Ar gyfer pa fersiynau o system Android mae'r ap ar gael?

Fersiwn 4.0 ac uwch.

Sut ydw i'n llwytho'r cynnwys diweddaraf ar yr ap?

Tynnwch y sgrin i lawr er mwyn llwytho'r cynnwys diweddaraf.

Sut ydw i'n newid maint y testun mewn stori?

Ar rai ffonau, gallwch wneud hyn drwy dapio'r eicon tri smotyn ar dop dde y sgrin.

Yna, dewisiwch 'Newid maint y testun'. Os nad yw yno, tapiwch 'Gosodiadau' a chwiliwch am 'Maint y testun'.

Os nad yw'r eicon tri smotyn yn ymddangos o gwbl, maen rhaid tapio eicon y ddewislen i newid maint y testun.

Sut ydw i'n rhannu stori?

Mae'r ap yn gadael i chi rannu'r cynnwys (yn cynnwys lluniau) drwy rwydweithiau cymdeithasol fel Facebook a Twitter, ac ar e-bost. Er mwyn gwneud hyn, tapiwch ar yr eicon rhannu - sef tri smotyn mewn siâp triongl - a dewisiwch o'r rhestr sut ydych chi eisiau rhannu'r cynnwys.

Bydd rhaid i chi sicrhau fod eich cyfrif Facebook, Twitter neu e-bost wedi ei gysylltu gyda'ch dyfais er mwyn gwneud hyn.

Alla i wrando'n fyw ar BBC Radio Cymru?

Ewch i adran Radio yr ap er mwyn gwrando'n fyw ar eich hoff rhaglenni ar BBC Radio Cymru.

Cofiwch, mae'n bosib bydd eich rhwydwaith yn codi taliad am ddefnyddio data.

Sut alla i ddefnyddio ap BBC Cymru Fyw pan 'dyw'r ddyfais ddim wedi cysylltu â'r we?

Bydd yr ap yn arbed straeon ar y ddyfais i'w darllen pan does yna ddim cysylltiad â'r we.

Gan fod clipiau fideo a Radio Cymru yn cael eu ffrydio i'r ddyfais, fydd rhain ddim ar gael pan does dim cysylltiad â'r we. Efallai bydd rhai lluniau ar goll hefyd.

Ble mae Gosodiadau'r ap?

Mae'r gosodiadau ar gael drwy dapio ar eicon y ddewislen neu'r eicon tri smotyn ar dop dde y sgrin, yn dibynnu ar ba ddyfais sydd gennych chi.

Alla i arbed fideo i'w wylio nes ymlaen?

Na. Ar hyn o bryd, mae'r BBC yn ffrydio fideos a chlipiau sain, felly dydyn nhw ond ar gael pan mae'r ddyfais wedi cysylltu â'r we.

Sut ydw i'n cyfrannu i Cymru Fyw?

Drwy'r ap, gallwch anfon llun, stori neu neges yn syth at dîm cynhyrchu BBC Cymru Fyw. I wneud hynny, ewch i'r ddewislen a phwyso ar y botwm 'Cysylltwch â ni'. Bydd rhaid i chi sicrhau fod eich cyfrif e-bost wedi ei gysylltu gyda'ch dyfais er mwyn gwneud hyn.

Weithiau, bydd eich cyfraniadau yn cael eu cyhoeddi, gyda'ch enw a'ch lleoliad, oni bai eich bod yn dweud fel arall. Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu cyhoeddi byth.

Wrth anfon lluniau aton ni, dylech chi byth roi eich hunain na neb arall mewn perygl na thorri unrhyw gyfraith. Sicrhewch eich bod chi wedi darllen y telerau ac amodau.

Sut ydw i'n anfon adborth i'r BBC am yr ap?

Os oes gennych chi sylw neu gwestiwn am yr ap, e-bostiwch news@mediaapptech.com yn y DU, neu mobileapps@bbc.co.uk o du allan i'r DU.

Os hoffech chi wneud cwyn swyddogol am yr ap, ewch i dudalen Cwynion y BBC.

Rhannu ystadegau

Rydyn ni'n casglu data ystadegol ynglŷn â sut mae'r ap yn cael ei ddefnyddio er mwyn ein helpu ni i ddysgu beth sydd yn gweithio a beth sydd fwyaf defnyddiol i chi.

Y mwyaf o ddata allwn ni ei gasglu, y gorau, fel ein bod ni'n gallu dysgu yr hyn mae pobl ei eisiau o apiau fel hyn.

Beth os nad ydw i am i chi gasglu fy ystadegau?

Mae'r holl ddata yn anhysbys (h.y. fyddwn ni ddim yn gwybod pa dudalennau mae person penodol yn ymweld â nhw, na'u lleoliad, ond byddwn ni'n gallu gweld arferion cyffredinol ynglŷn â pha dudalennau a lleoliadau sydd fwyaf poblogaidd). Wrth gwrs, os nad ydych chi eisiau i ni gasglu'r data yma, wnawn ni ddim.

Er mwyn peidio rhannu eich ystadegau, ewch i'r Gosodiadau. Gallwch hefyd wneud hyn drwy osodiadau eich dyfais, drwy ddewis Ap BBC Cymru Fyw, diffodd y botwm Share Usage Statistics ac arbed y dewis.

Bydd y BBC ond yn defnyddio gwybodaeth ystadegau defnyddio er mwyn dadansoddi a gwella'r gwasanaethau mae'r ap yn eu cynnig. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.