Siopau Castle Bakery i gau yng Ngwynedd a Môn

  • Cyhoeddwyd
siopauFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Mae gan y cwmni chwe siop yng Ngwynedd a Môn

Mae BBC Cymru Fyw ar ddeall y bydd holl ganghennau siopau Castle Bakery yng Ngwynedd a Môn yn cau'r penwythnos hwn.

Mae gan y cwmni chwe cangen yng Nghaernarfon, Bangor, Porthaethwy, Biwmares a Chaergybi.

Fe sefydlwyd y cwmni gan William Roberts yn 1885 wedi iddo ddychwelyd i Fôn ar ôl cyfnod yn y Wladfa ym Mhatagonia, ac mae'r cwmni yn parhau i fod yn nwylo'r un teulu hyd heddiw.

Yn ôl gwefan y cwmni, maen nhw yn gwerthu eu cynnyrch i dros filiwn o bobl yn flynyddol, gan gynnwys aelodau o'r Teulu Brenhinol.

'Dipyn o sioc'

Dywedodd aelod o staff y cwmni fod y newyddion yn "dipyn o sioc".

"Fe ddaru ni ddod i mewn bore 'ma fel arfer, ac mi gafo ni wybod am 10 o'r gloch, fod y siopa yn cau ddydd Sadwrn," meddai.

"'Dwi wedi gweithio yma ers gadael yr ysgol, ac am y tro cyntaf yn fy mywyd, mi fyddai yn ddi-waith."

Fe gysylltodd BBC Cymru Fyw â'r cwmni, sydd a'i phencadlys ym Miwmares, Ynys Môn, ond nid oedd unrhyw un o'r rheolwyr ar gael i wneud unrhyw sylw.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe sefydlwyd y cwmni ym Miwmares yn 1881