Ymgyrch i ddod o hyd i goed derw'r Rhyfel Byd Cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Derwen

Mae Coed Cadw wedi lansio ymgyrch i geisio dod o hyd i goed coffa'r Rhyfel Byd Cyntaf, gafodd eu plannu mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru 100 mlynedd yn ôl.

Mae'r mudiad yn gofyn i bobl helpu i ddod o hyd i'r coed derw math Verdun, gyda phosibilrwydd bod rhai yn Y Fenni, Abertawe a Llanystumdwy yng Ngwynedd.

Dydd Sul, 21 Chwefror fe fydd hi'n 100 mlynedd ers dechrau Brwydr Verdun, sef brwydr sengl hiraf y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar ôl y frwydr, fe gafodd mes eu casglu o faes y gad, a'u cludo i Brydain, lle cawsant eu plannu mewn gwahanol ardaloedd, ac erbyn heddiw, mae rhai ohonynt yn dal i sefyll fel cofeb barhaol i'r rhai fu farw yn y rhyfel.

'Dirgelwch'

Ganrif yn ddiweddarach, mae prif elusen gwarchod coetir y DU yn awyddus i ddod o hyd i unrhyw goed sydd wedi goroesi, fel y gellir casglu eu mes a thyfu ail genhedlaeth o goed derw Verdun i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae ymchwil wedi datgelu bod rhai o'r coed wedi cael eu plannu yn Y Fenni, ac yng nghyn-gartref prif weinidog y DU, David Lloyd George yn Llanystumdwy.

Dywedodd Philippa Borrill, rheolwr prosiect Canmlwyddiant - Coed Cadw: "Mae un o'n gwirfoddolwyr wedi nodi safleoedd saith o goed derw Verdun sydd wedi goroesi, ac mae person arall wedi dod o hyd i wythfed goeden, ond rydym yn awyddus i ddod o hyd i gymaint â phosibl.

"Mae elfen o ddirgelwch gwirioneddol i'r stori hon, gan nad oes unrhyw wybodaeth ar faint o goed gafodd eu plannu ac ym mhle. Mae'n ddirgelwch y byddem wrth ein bodd yn ei datrys."