Darganfod babi mewn bag: Apelio eto am wybodaeth
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent wedi apelio o'r newydd am wybodaeth wedi i fabi gael ei ddarganfod yng Nghasnewydd dair wythnos yn ôl mewn bag.
Cafodd y bachgen ei ddarganfod mewn lliain gyda'r geiriau 'St Anne's' wedi ei ysgrifennu arno, ac mae'r heddlu yn credu bod y lliain wedi dod o Hosbis St Anne's yn y ddinas.
Roedd y plentyn wedi ei osod mewn bag du, ac mae swyddogion wedi cyhoeddi llun o'r un math o fag dan sylw.
Mewn ymgais i ddod o hyd i fam y babi, mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd wedi gweld bag tebyg i gysylltu gyda nhw, ac yn gofyn i bobl geisio meddwl am rywun sydd wedi bod yn dangos ymddygiad anarferol dros yr wythnosau diwethaf ers i'r baban gael ei ddarganfod.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 207 29/01/16, neu drwy anfon neges e-bost at: contact@gwent.pnn.police.uk